Eurovision 2007 - Fix?

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dafydd » Llun 21 Mai 2007 11:35 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:Mae Ffrainc a'r Iwerddon wedi defnyddio caneuon Llydaweg a Gwyddeleg yn y gystadleuaeth o'r blaen.

Ti'n ffôl os wyt ti'n credu byddai'r Saeson yn dewis/pleidleisio dros cân Gymraeg i fynd i'r Eurovision ar ran Prydain. Dyma'r bobl sy ddim yn deall pam fod pawb arall yn y gystadleuaeth yn mynnu canu yn eu hiaith eu hunain ac yn pwdu am nad oes ganddyn nhw unrhyw siawns o ennill, er eu bod yn dewis caneuon crap.

Os oedd gwledydd Prydain yn cystadlu ar wahan, llawer gwell fyddai gwneud hynny drwy'r darlledwyr cenedlaethol nid drwy'r BBC yn ganolog.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Jon Bon Jela » Llun 21 Mai 2007 1:17 pm

dafydd a ddywedodd:

Na dw i ddim. Mae cyfryngau gweddill Prydain wedi bod yn fwy parod i gydnabod a sôn am y Gymraeg nag erioed o'r blaen. Dw i'n siwr bydd cynhyrchwyr MYMU yn fwy na hapus i dderbyn cân [dda] o Gymru i gymryd rhan yn eu rhaglen.

Jiw, ti'n un fach negyddol yndwyt ti, Daf?
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan dafydd » Llun 21 Mai 2007 2:25 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Jiw, ti'n un fach negyddol yndwyt ti, Daf?

Ddim fel ti o gwbl 'te :) Ond os oedd y posibilrwydd (prin) o gael gwledydd Prydain i gystadlu ar wahan yn yr Eurovision, dwi ddim yn gweld y pwynt gwneud e gyd trwy BBC Llundain. Llawer gwell fyddai cael sioe Gymraeg ar S4C a chystadlu yn wir ar wahan.

Os wyt ti'n sôn am beidio cystadlu ar wahan ond jyst rhoi cân Gymraeg fewn i gystadleuaeth y DU, wel mae hwnna wedi ei drio o'r blaen dwi'n credu! (o dan yr hen drefn lle roedd paneli rhanbarthol). Mi fyddai'n fwy annhebygol erbyn hyn - lle mae'r cynhyrchwyr yn dewis y 6 cân ola a'r cyhoedd yn pleidleisio - gan gofio fod 90% o'r gwylwyr o Loegr.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Jon Bon Jela » Llun 21 Mai 2007 5:34 pm

dafydd a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:Jiw, ti'n un fach negyddol yndwyt ti, Daf?

Ddim fel ti o gwbl 'te :) Ond os oedd y posibilrwydd (prin) o gael gwledydd Prydain i gystadlu ar wahan yn yr Eurovision, dwi ddim yn gweld y pwynt gwneud e gyd trwy BBC Llundain. Llawer gwell fyddai cael sioe Gymraeg ar S4C a chystadlu yn wir ar wahan.

Os wyt ti'n sôn am beidio cystadlu ar wahan ond jyst rhoi cân Gymraeg fewn i gystadleuaeth y DU, wel mae hwnna wedi ei drio o'r blaen dwi'n credu! (o dan yr hen drefn lle roedd paneli rhanbarthol). Mi fyddai'n fwy annhebygol erbyn hyn - lle mae'r cynhyrchwyr yn dewis y 6 cân ola a'r cyhoedd yn pleidleisio - gan gofio fod 90% o'r gwylwyr o Loegr.

Hmm, digon teg. Wel beth am i ni ddechrau ymgyrchu te? Beth yw'r cam cyntaf? Ysgrifennu at S4/C? Cofio ti'n dweud rhywbeth am y ffaith y bydd e'n costio lot gormod i ni gystadlu - pam felly?
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai