Carlos Tevez a ddywedodd:Clasur eto o Gystadleuath eto gyda Terry Wogan ar top form fel arfer..dyna'r unig reswm i wylio fo i ddeud y gwir..
Doedd Serbia ddim yn haeddu ennill o gwbl , roeddwn i yn licio caneuon ffrainc a sweden, ond ddim fel gweddill Ewrop heno ma..!
Gas 'da fi Terry Wogan. Mae'n ddoniol ar adegau, ond dyw ei goegni ddim yn caniatau iddo siarad dros rannau helaeth o'r caneuon yn yr ESC, ac mae'n sbwylio'r peth i fi. Gyda'r holl dechnoleg ddigidol sydd ar gael, braf fyddai gallu diffodd ei lais neu ddewis sylwebydd arall. Doeth fyddai cyflogi Graham Norton neu Eddie Izzard yn ei le.
Dw i wir o'r farn mai eleni oedd y gystadleuaeth orau y cynhaliwyd yn hanes y rhaglen - roedd yr ansawdd yn wych a thybiaf mai ond Sbaen gynigodd gân wan.
Dyma oedd fy ffefrynnau eleni:
1. Georgia - Rip off digywilydd o 'Ray of Light' gan Madonna, ond yn ffab ta beth.
2. Slovenia - Opera, LEDs a bît gwych. Trueni na wnaeth hi'n well.
3. FYR Macedonia - Rhythm diddorol, rhoddais £5 arni i ennill.
4. Ffindir - Emoth nonsens ar ei orau.
5. Y DU - Chwarae teg i Scooch, fe weithion nhw'n galed, ac maent yn gallu canu'n dda. Tybiaf y byddai'r gân wedi ennill yn 1995 neu rywbeth.
Serbia? Meh. Swnio'n gwmws fel hysbyseb ar gyfer diod 'malted' o tua 1991:
"Mooooooooolitva!"
Roedd rhywbeth lesbïaidd iawn am y perfformwyr hefyd. Lot o dwtshad a 'sgidiau fflat ayb.
Dydw i ddim o'r farn bod gwledydd dwyrain Ewrop wedi cymryd drosodd. Mae bloc-voting wedi bod yn cymryd lle ers blynyddoedd maith, gyda'r gwledydd Nordic a Groeg a Chyprus yn cyfnewid pwyntiau fel rhyw fath o draddodiad. Does dim hawl gyda ni yn y gorllewin i gwyno â bod yn onest - dydyn ni ddim wedi cymryd y gystadleuaeth o ddifri ers blynyddoedd, ac hallt yw beio popeth ar wledydd sydd YN cynhyrchu cerddoriaeth dda ac sydd wir eisiau ennill y gystadleuaeth.
Ond ar y llaw arall, mae presenoldeb cryf hen wledydd yr UGSS yn codi rhai cwestiynau. Dyma fy awgrymiadau ar gyfer tafoli'r bresenoldeb rhwng y gorllewin a'r dwyrain:
1. Dylai pwyntiau 1-7 ddod o bleidlais y cyhoedd, a phwyntiau 8-12 ddod o banel profiadol o bobl proffesiynol. Byddai hyn yn lleihau'r risg o wledydd yn pleidleisio dros wledydd yn hytrach na'r caneuon.
2. Mae 42 o wledydd yn ormod, ac yn annheg. Dylid diddymu'r rownd gyn derfynol a chynnwys y gwledydd ar system rota, fel yr oedd hi cyn 2004.
3. Cadw'r rownd gyn derfynol a dewis y buddugwyr drwy ddetholiad panel yn unig.
Ar gyfer 2008, hoffwn weld y DU yn cael ei chynrychiolu gan gân fwy araf, neu ddanfon rhywbeth hollol 'off the wall' megis dawnswyr Bhangra neu rywbeth fel 'na.
Ethnigrwydd, darling. It's all about the ethnigrwydd.
Ac ystyriwch hyn: yn ôl gwefan yr EBU, mae gan Moroco, Libya, Yr Aifft, Lebanon, Algeria a Tunisia yr hawl i gystadlu. Mae yna ryw si ar
http://www.esctoday.com fod Palestine yn bwriadu cystadly y flwyddyn nesa. Diddordol fydd gweld y sing-off rhyngddi ac Israel...