Jon Bon Jela a ddywedodd:Mae Ffrainc a'r Iwerddon wedi defnyddio caneuon Llydaweg a Gwyddeleg yn y gystadleuaeth o'r blaen.
Ti'n ffôl os wyt ti'n credu byddai'r Saeson yn dewis/pleidleisio dros cân Gymraeg i fynd i'r Eurovision ar ran Prydain. Dyma'r bobl sy ddim yn deall pam fod pawb arall yn y gystadleuaeth yn mynnu canu yn eu hiaith eu hunain ac yn pwdu am nad oes ganddyn nhw unrhyw siawns o ennill, er eu bod yn dewis caneuon crap.
Os oedd gwledydd Prydain yn cystadlu ar wahan, llawer gwell fyddai gwneud hynny drwy'r darlledwyr cenedlaethol nid drwy'r BBC yn ganolog.