Galeri a Byd Mawr yn cyflwyno:
Etran Finatawa
Nos Fercher, 30 Mai
7.30pm
Tocynnau: £12 / £10 gostyniadau
Mae Etran Finiatawa (“sêr traddodiadau”) yn
symbol o heddwch a chymodi sy’n cyfuno diwylliant
nomadaidd gyfoethog y wlad Affricanaidd
orllewinol, sef Niger. Mae eu cerddoriaeth yn
cyd-blethu offerynnau traddodiadol gyda gitarau
trydan, offerynnau taro grymus a llafarganu. Yn y
grw ˆ p mae pedwar Tuareg (a adnabyddir ledled
y byd fel nomadiaid y diffeithwch) a chwech
Wodaabe (sy’n nodweddiadol am eu paentio
wyneb trawiadol). Er eu gwahanol dreftadaeth
a ieithoedd mae eu cyd-brofiadau o fywyd
nomadaidd wedi eu dwyn ynghyd i ffurfio Etran
Finatawa.
Bydd DJs BYD MAWR yn chwarae yn y bar yn ystod
y noson.