Rhaglen ddogfen Imagine ardderchog arno ar BBC 1 neithiwr. Wedi bod yn ffan ohono ers dyddiau coleg - darganfod albyms Scott 1,2,3,4 gyntaf wedyn gweithio fy ffordd drwy stwff Walker Brothers ac wedyn ei dair albym diweddarach- 'Climate of Hunter', 'Tilt' a 'The Drift'.
O bosibl y gyfres o albyms mwyaf od uffernol/heriol/arallfydol gan unrhyw artist unigol erioed, ar wahan i Beefheart neu Waits falle. Yn gwthio popeth i'r ffiniau. Llais bariton expressive, lyrics yn son am dwnimbe ac, yn fwy diweddar, caneuon sydd bron ddim yn ganeuon o gwbwl. Dylanwadol hefyd - Bowie, Eno, Jarvis Cocker, Radiohead, Suede yn ei namecheckio.
Oes ffans eraill yn eich plith?