Ydw dwi yn Jeff Buckley fan, ond mi ddois yn edmygwr o'i gerddoriaeth sawl blwyddyn yn ol cyn i'r holl cwlt 'ma datblygu o'i gwmpas.
Eniwe 10 mlynedd i Dydd Mawrth (29 Fai) fe boddodd ar ol mynd i nofio yn y Mississippi.
Mae na dipyn o statws wedi adeiladu o'i gwmpas y dyn ers i iddo farw mor ifanc ac mae yna lot o artistiaid wedi cael eu dylanwadu ganddo(rhai digon gwael yn anffodus megis Snow Patrol, Star Stailor a'r tw*t yma).
Mae'n cael ei gofio hefyd am ei fersiwn o Leonard Cohen Hallelujah. Ond mae gweddill o'i ganeuon fe ganodd ar yr unig albym fe gynhyrchodd yn llawer gwell, yn arbennig rhywbeth fel Last Goodbye a Lover, you should have come over. Eniwe, os ydych gyda cwpl o bunnoedd yn eich poced ewch allan i brynu Grace, fe cewch chi ddim eich siomi.