Pwy sy'di gweld / clywed y boi 'ma yn chwarae? Ma fe 'di recordio albym gyda cymorth Mr Huw a Swci Boscawen - i'w rhyddhau diwedd y mis ar
Recordiau Kimberley (bydd ar gael o'r wefan ne o ambelli siop leol). Ma ganddo sengl ar gael NAWR - i'w lawrllwytho yn unig o'r wefan ne ar ei tudalen
myspace.
Ma ganddo sawl gig yn yr wythnos ma fe'n rhyddhau'r albym:
27 Gorffenhaf - Hendre Hall (gyda Zabrinski a mwy)
29 Gorffenhaf - Clwb Ifor Bach (gyda Plant Duw a mwy)
30 Gorffenhaf - Spillers (5 o'r gloch yn y prynhawn!)
... a mwy dwi ddim yn cofio...
Os gallwch chi helpu fe cael slot ar llwyfan yn Wakestock trwy gyrru neges testun yn dweud 'Vote Alex' i 81199 a danfon ebost yn dweud alex i
bethanandhuw@bbc.co.uk.
Diolch!