Newydd ddod yn ôl o Aber gyda CDau newydd gan Sigur Ros a Godspeed You Black Emperor
Mi oedd gen i'r albym gynta, ond yn fy mrwdfrydedd i rannu cerddoriaeth 'dda' efo pawb dwi'n nabod dwi di benthyg o i rywun, ac erbyn hyn dwi'm yn cofio pwy
. Mae o braidd yn
depressing faint o weithiau ma' hynny'n digwydd... *********! Dwi newydd sylweddoli fod un o'n albyms Cake i ar goll!
Mae'n rhaid bo fi'n mynd yn hen, achos mi nes i fethu dy ateb di Geraint (wps):
Geraint a ddywedodd:Postiwyd: Maw Rhag 17, 2002 3:13 pm Pwnc y neges:
--------------------------------------------------------------------------------
Ar y Stereo? Wedi cael PC am tua fis, felly dwi’n islwytho stwff o Kazaa trwy’r amser i gael stwff newydd a stwff hen nes i erioed brynu. Wedi cael y broadband NTL cyflyma sy’n helpu, 35 punt y mis ond 20 waith y gyflymach na lein ffon
Ar y funud:
Miles Davis: Kind of Blue, arbennig o dda I gwympo I gysgu
Zero 7 & Lemon Jelly: chilled out
Death in Vegas: Scorpio rising (psychadelic)
Queens of the stone age: I Rocio!
Faith no more: King for a day, Fool for a Life Time, band gwych
Manics: Holy Bible. Nes I weld rhaglen amdanynt nos wener, a wnath o atgoffa fi pwy mor dda ydynt, enwedig y record yma.
Audioslave: Rage against the Machine a Chris Cornell o Soundgarden yn canu. Fel ffan mawr o’r ddau band yma, ma hwn yn hitio’r sbot. Riffs rage a dawn ysgrifennu a llais Cornell.
Unig pethau yn Gymraeg yn ddiweddar yw:
MC Mabon: XR3i, hwn wnath Nic rhoi ar y maes, mae’n wych, rhaid I mi gael mwy o’I stwff
Mim Twm Llai: Gai Toms, that boy can play
Breuddwyd Techhead
A Mwng yn y car.
Aaargh! Dwi 'di colli albym Faith No More hefyd!
Yr un efo 'One last cup of sorrow arno fo'; doedd hi'm yn wych, ond mi roedd yna ddwy gan anhygoel yng nghanol y fillers...
Ma QOTSA yn wych! Fy 'driving music' i am y blynyddoedd diwethaf ma oedd eu halbym cynta. Clasur, a stwff Kyuss hefyd. Unrhywunn wedi clywed stwff Masters of Reality? Mae stwff nhw'n cool.
Dwi mond wedi gweld video Audioslave (bach yn ddiflas on i'n meddwl), ond mae'r ingredients i gyd yna.
Holy Bible: fy hoff albym Manics.
Ma stwff MC Mabon yn dda, ond ma 'na ddiffyg cysondeb yn ei albyms, sy'n uffar o biti. Dwi'n gwrando ar 'Mozzerela' Dau Cefn ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i fi gyfaddef mod i'n impressed iawn. Albym werth ei chael.
Hwyl,
Gruff