Tudalen 1 o 177

Be sy' ar eich stereo chi ar y funud?

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 11:19 am
gan Gruff Goch
Be a pam? (Dydi'r gath ddim yn cyfrif :winc: )

Ar y funud dwi'n gwrando ar:

Goldfrapp - The Felt Tree

Ma hon yn wych, cynnyrch cydweithrediad rhwng merch sydd â llais cystal a honno o Portishead (ond sy dal yn unigryw), a rhywun sy'n sgwennu cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau (yma mae'n swnio fel cerddoriaeth ffilmiau 50-60au).

Mark Lanegan - Field Songs

Ex Screeming Trees, a gitarydd presenol Queens of the Stone Age. mae ganddo lais anhygoel y baswn i'n lladd i fod yn meddu arno. Albym lled-acwstig, gyda lot o gyffyrddiadau gwych a gwahanol. Hyfryd.

Brant Bjork - Brant Bjork & the Operators

Albym laid-back ond â digon o fynd ynddi - sut ma hynny'n bosib, dw i ddim yn siwr... Dwi'n meddwl mai i'r cyfeiriad yma ydw i am fynd unwaith dwi'n cael gwared a problem sw^n fy nghyfrifiadur.

Be amdanoch chi?

Gruff :D

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 11:38 am
gan Di-Angen
Reagan Youth - Live & Rare

Un o'r bandiau mwyaf influential o New York yn yr 80au cynnar - tipyn fel y Dead Kennedys ond fwy cool. Dwi'n credu fod y Beastie Boys yn covero ychydig o'r tunes weithiau. Roedd y canwr Dave I yn genius.

Common Rider - This is Unity Music

Indie ska-rock ar Hopeless Records. Da iawn.

TSOL - Dance With Me

Late 70s/early 80s punk rock o California. Maent yn canu can da am necrophilia o'r enw Code Blue.

The Oppressed - discography

Y band gorau i ddod allan o Gymru erioed.

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 12:08 pm
gan Gruff Goch
Ma' arna i gywilydd nad ydw i wedi clywed stwff The Opressed o'r blaen- lle alla i gael gafael ar eu stwff?

Gruff

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 1:36 pm
gan Di-Angen
Gruff Goch a ddywedodd:Ma' arna i gywilydd nad ydw i wedi clywed stwff The Opressed o'r blaen- lle alla i gael gafael ar eu stwff?

Gruff


Lle ti'n byw? Yr unig le rwy erioed wedi gweld unrhywbeth ganddynt yw yn Spillers ac yn HMV yng Nghaerdydd (roedd un o members Oppressed yn gweithio yn Spillers am nifer o flynyddoedd yn y 90au). Reissues/discography CDs sydd ar gael ar y mwyaf, gyda collection o singles/rarities etc.

Roedden nhw'n dod o Llanrumney yng Nghaerdydd, ac yn un o'r leading lights o'r Oi! scene yn yr 80au, gyda such wicked tracks a "ACAB", "Skinhead Girl" a "Joe Hawkins". Mae'n siwr bod nhw'n parhau i werthu lot o CDs yn llefydd fel Japan, UDA ac ar y cyfandir. Fi'n hoffi nhw lot, ac wedi bod yn pissed off am flynyddoedd na wnes i weld nhw'n chwarae'n live.

Wedi ffeindio cwpl o mp3s fan hyn - http://www.bunker33.host.sk/oppressed/oppressedmp3/oppressedmp3.html

Sori, mae'r mp3s ddim yn gweithio - os ti wir am glywed nhw, mae wastad cwpl o'r tracks mwyaf famous ar gael ar y file sharing networks.

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 3:13 pm
gan Geraint
Ar y Stereo? Wedi cael PC am tua fis, felly dwi’n islwytho stwff o Kazaa trwy’r amser i gael stwff newydd a stwff hen nes i erioed brynu. Wedi cael y broadband NTL cyflyma sy’n helpu, 35 punt y mis ond 20 waith y gyflymach na lein ffon :o

Ar y funud:

Miles Davis: Kind of Blue, arbennig o dda I gwympo I gysgu 8)

Zero 7 & Lemon Jelly: chilled out

Death in Vegas: Scorpio rising (psychadelic) :ofn:

Queens of the stone age: I Rocio! :crechwen:

Faith no more: King for a day, Fool for a Life Time, band gwych

Manics: Holy Bible. Nes I weld rhaglen amdanynt nos wener, a wnath o atgoffa fi pwy mor dda ydynt, enwedig y record yma.

Audioslave: Rage against the Machine a Chris Cornell o Soundgarden yn canu. Fel ffan mawr o’r ddau band yma, ma hwn yn hitio’r sbot. Riffs rage a dawn ysgrifennu a llais Cornell.


Unig pethau yn Gymraeg yn ddiweddar yw:
MC Mabon: XR3i, hwn wnath Nic rhoi ar y maes, mae’n wych, rhaid I mi gael mwy o’I stwff

Mim Twm Llai: Gai Toms, that boy can play

Breuddwyd Techhead :winc:

A Mwng yn y car.

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 3:30 pm
gan Gruff Goch
Ok, diolch, mi ga i olwg amdanyn nhw :D .

Gruff

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 5:59 pm
gan nicdafis
Newydd ddod yn ôl o Aber gyda CDau newydd gan Sigur Ros a Godspeed You Black Emperor, hefyd wedi wneud y siopau elesenol a ffeindiais LP cyntaf Sugar (Bob Mould/Husker Dü), a chwpl o senglau CD gan y Jesus a Mary Chain. (Mae lot fawr o senglau CD indie a Brit pop yn siop Sally Army ar y ffordd lan i Andy's Records - 50c yr un, bargen!)

Dw i wedi bod yn gwrando ar stwff fel Van der Graaf Generator ac Amon Duul II yn diweddar, achos mod i'n hen hipi. A ffeindiais i <i>motherlode</i> o FTPau, gyda wdls ac wdls o sdwff <i>post-rock</i>, lo-fo, ambient ac ati, felly mae rhywbeth newydd bob bore 'da fi, ar ôl i'r iBook treulio'r nos islwytho sdwff.

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 6:17 pm
gan Geraint
Ma LP gynfa (ar ail!) Sugar yn wych, rhaid i mi ffeindio fo nawr!
Mae'n anodd cofio gyd o'r bandiau o ni arfer gwrando

O ni'n dipyn o shoegazer yn y gorffenol:
My bloody valentine
Ride
Jesus and Mary Chain

O ni arfer fod yn myfyriwr ym Aber, odd dim byd well na treulio amser yn Andy's yn lle darlithoedd.

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 7:48 pm
gan Gruff Goch
Newydd ddod yn ôl o Aber gyda CDau newydd gan Sigur Ros a Godspeed You Black Emperor


Mi oedd gen i'r albym gynta, ond yn fy mrwdfrydedd i rannu cerddoriaeth 'dda' efo pawb dwi'n nabod dwi di benthyg o i rywun, ac erbyn hyn dwi'm yn cofio pwy :wps: . Mae o braidd yn depressing faint o weithiau ma' hynny'n digwydd... *********! Dwi newydd sylweddoli fod un o'n albyms Cake i ar goll! :crio:

Mae'n rhaid bo fi'n mynd yn hen, achos mi nes i fethu dy ateb di Geraint (wps):

Geraint a ddywedodd:Postiwyd: Maw Rhag 17, 2002 3:13 pm Pwnc y neges:

--------------------------------------------------------------------------------

Ar y Stereo? Wedi cael PC am tua fis, felly dwi’n islwytho stwff o Kazaa trwy’r amser i gael stwff newydd a stwff hen nes i erioed brynu. Wedi cael y broadband NTL cyflyma sy’n helpu, 35 punt y mis ond 20 waith y gyflymach na lein ffon

Ar y funud:

Miles Davis: Kind of Blue, arbennig o dda I gwympo I gysgu

Zero 7 & Lemon Jelly: chilled out

Death in Vegas: Scorpio rising (psychadelic)

Queens of the stone age: I Rocio!

Faith no more: King for a day, Fool for a Life Time, band gwych

Manics: Holy Bible. Nes I weld rhaglen amdanynt nos wener, a wnath o atgoffa fi pwy mor dda ydynt, enwedig y record yma.

Audioslave: Rage against the Machine a Chris Cornell o Soundgarden yn canu. Fel ffan mawr o’r ddau band yma, ma hwn yn hitio’r sbot. Riffs rage a dawn ysgrifennu a llais Cornell.


Unig pethau yn Gymraeg yn ddiweddar yw:
MC Mabon: XR3i, hwn wnath Nic rhoi ar y maes, mae’n wych, rhaid I mi gael mwy o’I stwff

Mim Twm Llai: Gai Toms, that boy can play

Breuddwyd Techhead

A Mwng yn y car.


Aaargh! Dwi 'di colli albym Faith No More hefyd! :drwg: :drwg: :drwg:

Yr un efo 'One last cup of sorrow arno fo'; doedd hi'm yn wych, ond mi roedd yna ddwy gan anhygoel yng nghanol y fillers...

Ma QOTSA yn wych! Fy 'driving music' i am y blynyddoedd diwethaf ma oedd eu halbym cynta. Clasur, a stwff Kyuss hefyd. Unrhywunn wedi clywed stwff Masters of Reality? Mae stwff nhw'n cool.

Dwi mond wedi gweld video Audioslave (bach yn ddiflas on i'n meddwl), ond mae'r ingredients i gyd yna.

Holy Bible: fy hoff albym Manics.

Ma stwff MC Mabon yn dda, ond ma 'na ddiffyg cysondeb yn ei albyms, sy'n uffar o biti. Dwi'n gwrando ar 'Mozzerela' Dau Cefn ar hyn o bryd, ac mae'n rhaid i fi gyfaddef mod i'n impressed iawn. Albym werth ei chael.

Hwyl,

Gruff :gwyrdd:

PostioPostiwyd: Maw 17 Rhag 2002 8:42 pm
gan Geraint
Last cup of sorrow ar Album of the Year, 1997.

O ni arfer gwrando ar Kyuss, wnes i golli stwff cynnar QOTSA, er roedd fy mrawd yn ffan mawr erbyn hyn. Nawr allai weld ddylwn ni di stico da'r band! Masters of Reality yn dda, hefyd Monster Magnet, Fu Manchu, Corrosion of Conformity, i gyd yn Black Sabbath fanatics.

Ma gennai gefndir :crechwen: "metal" :crechwen: yn y gorffennol pell, wnai dal wrando ar Slayer pan dwi pissed off go iawn!

ANGEL OF DEEEEEEEEEEEEEEEEATH!