Re: Be sy' ar eich stereo chi ar y funud?
Postiwyd: Iau 11 Meh 2009 2:26 pm
Roedd hwn yn dipyn o hac i ddechre, ond dylai gweithio'n iawn nawr. Er mwyn postio dolen i' gân arbennig:
Agorwch spotify a phwyswch ar y gân gan glic-dde i weld y ddewislen fechan. Yna dewiswch yr eitem "Copy HTTP Link". Bydd yr URL i'r gân honno nawr ar y clipfwrdd.
I osod tagiau spotify i'ch post: pwyswch y botwm spotify uwchben y blwch ysgrifennu a gludwch yr URL o'r clipfwrdd rhwng y tagiau, e.e. [spotify ]http://open.spotify.com/track/6AINfn3KABY6YqCyMetdPW[/spotify ]