Trunk Records
Postiwyd:
Sad 29 Medi 2007 10:21 pm
gan Dilwyn Roberts-Young
Oes yna rhywun arall ar y maes yn ddigon gwirion i brynu cerddoriaeth Trunk Records? Nhw sy'n enwog am eu cerddoriaeth '
fuzzy felt folk'! Cyffro mawr wrth iddyn nhw ryddhau cerddoriaeth Ivor the Engine ym mis Tachwedd a hwythau newydd ddathlu deng mlynedd o fodolaeth. Erioed wedi dysgu sut mae cynnwys URL felly:
http://www.trunkrecords.com
Postiwyd:
Sul 30 Medi 2007 11:43 am
gan Rhodri Nwdls
Dawn of The Dead OSTyn swnio'n dda (a'r lluniau'n dda ar
Blood on Satan's Claw hefyd
)
A ma'r RHAID i chi chwarae'r gêm ar waelod y
dudalen am y CD Flexi Sex!
Postiwyd:
Llun 01 Hyd 2007 2:01 pm
gan Y Crochenydd
Mae'r anhygoel Trunk yn ddeg mlwydd oed eleni. Nhw oedd y label cyntaf i ryddhau cerddoriaeth y ffilm fendigedig The Wicker Man ac mae'r ddau compilation (Fuzzy Felt Folk a Now We Are 10) yn hollol hudol. Mae obsesiwn Johnny Trunk gyda Oliver Postgate, cerddoriaeth 'library' anghyffredin, ffilmiau arswyd rhyfedd a porn o'r 70au yn hollol ganmoladwy. Hir oes i Trunk!
Postiwyd:
Mer 03 Hyd 2007 5:46 pm
gan Dyl mei
Trunk yn Legends, ar y fi cael yr un Flexi sex, Kes a Psychomania, Pressing Pink dir un Flexi sex! mae soundtrack Kes yn amazing....er o nin meddwl odd y cd best of braidd yn wan!!! dal, ffwc o foi di Jonny Trunk, mae ei erthygl yn Mojo bob mis yn wych!
Postiwyd:
Maw 23 Hyd 2007 8:47 am
gan Y Crochenydd
HWRE!! Mae soundtrack Blood On Satan's Claw (ffilm arswyd gwych o'r 70au) allan ar cd a feinil nawr ar Trunk. Gyda llaw, y rhif catalog yw JBH023LP/CD, Mihangel
Postiwyd:
Maw 23 Hyd 2007 9:19 am
gan Mihangel Macintosh
Be, ti'm yn gwbod be yw pwysau'r feinyl, pa ffactori yng Nghwerniaeth y siec nath ei bwyso a be yw'r etchings ar bob ochor?