Oes yna rhywun arall ar y maes yn ddigon gwirion i brynu cerddoriaeth Trunk Records? Nhw sy'n enwog am eu cerddoriaeth 'fuzzy felt folk'! Cyffro mawr wrth iddyn nhw ryddhau cerddoriaeth Ivor the Engine ym mis Tachwedd a hwythau newydd ddathlu deng mlynedd o fodolaeth. Erioed wedi dysgu sut mae cynnwys URL felly: http://www.trunkrecords.com
Out with the truckers and the kickers and the cowboy angels,
And a good saloon in every single town.
Mae'r anhygoel Trunk yn ddeg mlwydd oed eleni. Nhw oedd y label cyntaf i ryddhau cerddoriaeth y ffilm fendigedig The Wicker Man ac mae'r ddau compilation (Fuzzy Felt Folk a Now We Are 10) yn hollol hudol. Mae obsesiwn Johnny Trunk gyda Oliver Postgate, cerddoriaeth 'library' anghyffredin, ffilmiau arswyd rhyfedd a porn o'r 70au yn hollol ganmoladwy. Hir oes i Trunk!
Trunk yn Legends, ar y fi cael yr un Flexi sex, Kes a Psychomania, Pressing Pink dir un Flexi sex! mae soundtrack Kes yn amazing....er o nin meddwl odd y cd best of braidd yn wan!!! dal, ffwc o foi di Jonny Trunk, mae ei erthygl yn Mojo bob mis yn wych!
HWRE!! Mae soundtrack Blood On Satan's Claw (ffilm arswyd gwych o'r 70au) allan ar cd a feinil nawr ar Trunk. Gyda llaw, y rhif catalog yw JBH023LP/CD, Mihangel