<i>Daeth hyn trwy ebost heddi...</i>
- Mae'r CSA (Awdurdod Teledu a Radio Ffrainc) yn gwrthod rhoi seinamledd i Radio Lengadoc; Rhaid gwybod fod y radio 'ma yn darlledu yn Occitaneg, iaith Occitania (De Ffrainc). Mae Radio Lengadoc yn darlledu ar y We ar hyn o bryd (<http://www.radiolengadoc.com>www.radiolengadoc.com</a>).
- Mae Cyngor Tref Sant Nazaire, yn Llydaw, eisiau bwrw'r Ysgol Diwan (h.y. ysgol lle mae'r addysg yn Llydaweg) allan o'r dref, gan i Gyngor Stad Ffrainc benderfynu bod unrhyw iaith ar wah?n i Ffrangeg yn wrthgyfansoddiadol. Rhaid gwybod fod maer y dref hon yn perthyn i blaid Chevenement, hynny yw cenedlaetholwyr Ffrainc, rhai sy'n gwrthod ac yn ymosod ar ieithoedd a diwylliannau lleiafrifol yn Ffrainc. O'u hachos nhw, nid yw hi'n bosibl defnyddio ein hieithoedd ni mewn bywyd pob-dydd.
- Wedi ei glywed ar deledu Ffrainc (France 3, sianel y Stad); 'Roedd Ariane Massenet, un o'r cyflwynwyr, wedi gwahodd y brodyr Bogdanov i'w raglen, a wedi holi sawl iaith yr oeddent yn eu siarad. Chwech oedd yr ateb, gan gynnwys Gasconeg, rhaniaith Occitaneg. Gofynnodd iddynt siarad yn yr iaith honno (iaith Montaigne ydoedd). Gwnaethant. Dywedodd wedyn: "A dych chi'n galw hon yn iaith? Neu ai rhywbeth ar gyfer godro buchod yw e!".
Dyma Ffrainc i chi. Ar yr un pryd, mae Occitaneg, Llydaweg, Alsaseg, Corsicaneg, Flameg, Basgeg, Catalaneg yn marw. Bydd mwy o newyddion tebyg yfory, siwr ei fod. OS GWELWCH YN DDA, cyhoeddwch yr wybodaeth hon mor eang ? phosib.