Eurovision

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Eurovision 2008

Postiogan Gari Mynach » Sad 24 Mai 2008 1:47 pm

Diolch yn fawr Tafod_Bach. Dwi ddim yn meindio can Andy druan gymaint a hynny. Well na Scooch beth bynnag. Dwi'n gobeithio gwneith Morrissey ganu dros Brydain, fel mae o wedi son am wneud, rhyw bryd a gwneud Eurovision yn 'cwl' i ser bop safonol Prydeining gystadlu.
Gari Mynach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 21 Maw 2008 9:21 pm

Re: Eurovision 2008

Postiogan garynysmon » Maw 27 Mai 2008 12:14 pm

Bosnia oedd yn haeddu enill hi.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Eurovision 2008

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 27 Mai 2008 12:39 pm

Dwi'n meddwl ddylsai ymgais ni wedi sgorio mwy o bwyntiau oleuaf.
Roedd ymdrech Rwsia yn digon diflas ac yn sicr buaswn ni 'di hoffi gweld Ffrainc yn ennill. Gobeithio na fydd Terry Wogan yn tynnu allan ar ol hyn. Fo di'r unig reswm pam bod rhai ohonom yn cymeryd diddordeb yn yr holl beth.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Eurovision 2008

Postiogan tafod_bach » Maw 27 Mai 2008 2:25 pm

Dwi wastad di meddwl fod wogan yn sbwylio'r holl beth. Dwi'n meddwl ei fod o'n drist, ei fonologau crintachlyd dros y darllediad i gyd - dristach byth mai dyna pam mae'r eurovision yn gefnder cenedlaethol câr i ni ym mhrydain. dwi'm yn dallt chwaith sut fod 'pleidleisio i dy gymydog' wedi bod yn gymaint o broblem - o beth dwi'n cofio, do'n i ddim yn ymwybodol o'r peth tan i terry wogan ddechre hefru am y peth un flwyddyn (ai 'post iraqi backlash' ddaru *rili* effeithio tshansys 'gemini' a jordan?). Fel mae'n son ar un on flogiau'r bbc:

I've always been a bit baffled by [wogan's] contention that the Balkan nations love each other so much that they vote for each other's songs. Wasn't there a rather nasty war in the region not long ago, based on ethnic hatred? So I have always shrugged when Sir Terry insists Croatia's admiration for Serbia results in the voting pattern.


http://www.bbc.co.uk/blogs/thereporters/markmardell/

Trueni i Brydain ddod mor isel i lawr, ond ein bai ni yw e! Yn eironig, ennillwyr sgil-effaith diwylliant saesneg 'pop idol' o ddwyrain ewrop oedd llawer o'r cystadleuwyr naeth yn well. Neu, o leia, cantorion oedd yn mynd trwy'r moshwns - yn canu fel tasen nhw o flaen simon cowell, yn dawnsio fel shakira tra'n siarad mewn acen annhebygol o drawsatlantic. Roedd canran deimladwy o isel o'r caneuon wedi'u canu mewn iaith heblaw saesneg ac eidaleg hefyd. Mae'n rhy hwyr i droi'n snobs am y peth nawr-ni fwydodd y blydi peth i'r cyfandir!
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Eurovision 2008

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 27 Mai 2008 2:54 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Gobeithio na fydd Terry Wogan yn tynnu allan ar ol hyn. Fo di'r unig reswm pam bod rhai ohonom yn cymeryd diddordeb yn yr holl beth.


Tueddol o gytuno - fo fysa'r unig reswm y byddwn i'n ystyried gwylio Eurovision (pwy ffwc sy'n ei wylio am y gerddoriaeth wn i ffycin ddim de...), ond mae'n wir be ddywedodd o 'fyd - 'sneb yn pleidleisio dros Brydain achos 'sneb yn licio Prydain. Pleidleisio gwleidyddol ydi'r holl beth, lol llwyr.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Eurovision 2008

Postiogan tafod_bach » Maw 27 Mai 2008 5:39 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Madrwyddygryf a ddywedodd:Gobeithio na fydd Terry Wogan yn tynnu allan ar ol hyn. Fo di'r unig reswm pam bod rhai ohonom yn cymeryd diddordeb yn yr holl beth.


Tueddol o gytuno - fo fysa'r unig reswm y byddwn i'n ystyried gwylio Eurovision (pwy ffwc sy'n ei wylio am y gerddoriaeth wn i ffycin ddim de...), ond mae'n wir be ddywedodd o 'fyd - 'sneb yn pleidleisio dros Brydain achos 'sneb yn licio Prydain. Pleidleisio gwleidyddol ydi'r holl beth, lol llwyr.



yyy, fi? (gweler post uchod efo, ym, caneuon y gwledydd i gyd... :rolio: )

dwi dal yn meddwl bod rhywbeth diwylliannol ar droed, ac mai nid am resymau gwleidyddol nath rwsia ennill - os nad oes pwerau cryfion di bod yn fforsio braich ffon dwyrain ewrop, ynde... :seiclops: conspirasi!
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Eurovision 2008

Postiogan Gari Mynach » Mer 28 Mai 2008 7:59 pm

Dwi'n gwylio fo am y gerddoriaeth hefyd. Fy ffefrynnau oedd Ukraine, Gwlad yr Ia, Sweden a Groeg.

Cafodd can Rwsia ei chynhyrchu can Timbaland felly mae'n rhaid fod y dyn oedd yn canu i Rwsia yn enwog yn Nwyrain Ewrop er mwyn cael gweithio efo fo.
Gari Mynach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Gwe 21 Maw 2008 9:21 pm

Re: Eurovision 2008

Postiogan Chickenfoot » Mer 28 Mai 2008 8:25 pm

Dywedodd adroddiad ar y World Service mai "displacement" ym mhoblogaethau gwledydd Ewrop oedd yn arwain at y bleidleisio rhyfedd e.e lleiafrif mawr o Rwsiaid yn Latvia.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Eurovision 2008

Postiogan garynysmon » Llun 18 Mai 2009 6:01 pm

Be oedd pawb yn feddwl o un 'leni ta?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Eurovision 2008

Postiogan Orcloth » Maw 19 Mai 2009 6:12 pm

O'n i'n meddwl bod rhai o ganeuon flwyddyn yma'n eitha da, (heblaw am y ffaith bod na bishyns handi'n eu canu!), a rhai wrth gwrs yn ofnadwy o sobor, yn enwedig y rhai'n y dechra. Wedi mhlesio'n arw bod yr hogyn bach del hefo'r ffidil wedi ennill (cor!). :D :winc: (Faint di'n oed i, dudwch?!!).

o.n. Ar ol meddwl am y peth, roedd un o'r dynion a oedd yn chwarae rhyw offeryn neu'i gilydd hefo grwp, yn debyg iawn i rhyw foi oedd ar Big Brother tua dwy neu dair mlynedd yn ol (cyn i'r rhaglen fynd yn hollol stiwpid!). Un Groegaidd (hoyw, dwi'n meddwl) oedd o, dwi'm hyd yn oed cofio'i enw fo chwaith! (O mai god, tydi henaint yn beth ofnadwy!). Ella na'i chwilio drwy'r we amdano fo...

o.o.n. Newydd ffendio allan mai Gerry oddi ar BB8 oedd y boi o'n i'n meddwl amdano uchod, yn ty'r BB hefo Ziggy, Carole (y ddynes fawr na hefo sbectol oedd isio bod yn fam i bawb), yr efeilliaid bimboaidd blonde ayyb. Os dwi'n cofio'n iawn roedd ganddo dedi mwnci ac roedd o'n licio siarad hefo fo..... :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai