Eurovision

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Eurovision 2008

Postiogan aronj89 » Mer 09 Ebr 2008 4:26 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:Mae'r Alban wedi cael caniatad yr EBU i gystadlu fel gwlad annibynnol o 2009! Does dim BYD felly sy'n gallu rhwystro Cymru rhag cymryd rhan chwaith! Hwrê! (Wel ond am arian falle)


Paul Potts ta Rrrrrrrrrydian i ganu dros Gymru? :lol:
Neu Katherinr Jenkins i gael cwpl o votes :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
aronj89
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 475
Ymunwyd: Iau 07 Rhag 2006 5:31 pm

Re: Eurovision 2008

Postiogan Monkeyspoon » Sul 13 Ebr 2008 7:37 pm

Mae'n bwysig i chi i gyd i bleidleisio dros y Ffindir... Suomi!!!!

Ro'n i mor hapus pan glywais i fod nhw yn y gystadleuaeth achos dw i wedi bod yn gwrando arnyn nhw ers amser maith 8)

Monkeyspoon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:06 am
Lleoliad: Porthcawl a Chaerdydd

Re: Eurovision 2008

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 16 Ebr 2008 1:47 pm

Mae rhywun yn Ffrainc yn cwyno am ddefnydd o'r Saesneg yn eu can nhw:
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/europe/7350193.stm

Wn i ddim pam mae'r gwyn yn codi flwyddyn yma - mi bleidleisiais i dros Les Picards Fatales flwyddyn diwetha......
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Re: Eurovision 2008

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 20 Mai 2008 8:07 pm

Dim ond 4 i fynd. Wehey!
Be di'ch planiau ar gyfer y noson?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Eurovision 2008

Postiogan ceribethlem » Mer 21 Mai 2008 8:06 am

Madrwyddygryf a ddywedodd:Dim ond 4 i fynd. Wehey!
Be di'ch planiau ar gyfer y noson?

Noson o DVD's a photeli o win i fi :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Eurovision 2008

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Mer 21 Mai 2008 8:45 am

ma twrci bach iwerddon allan :o
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Eurovision 2008

Postiogan mabon-gwent » Mer 21 Mai 2008 12:29 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:ma twrci bach iwerddon allan :o


Ymateb gas gan y gwrandawyr. Doedden nhw ddim yn hoffi'r gywair, mae'n dangos y ffordd arall mae pobl yn y ddwyrain yn meddwl am y cystadleuaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
mabon-gwent
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 111
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2008 4:00 am

Re: Eurovision 2008

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 21 Mai 2008 12:38 pm

Na dwi'n meddwl mae o mwy i wneud gyda Iwerddon yn ymdrechu i peidio ennill y gystadluaeth. Bron i RTE dod yn fethdalwr ar ol ennill y sioe teirgwaith yn y nawdegau. Er fod Eurovision yn hollol dibwynt, mae'r cystadluaeth yn dechrau dod o dan fygythiad y pleidleisiau bloc o Dwyrain Ewrop. Hoffwn i weld o mynd yn ol i panel o barnwyr ymhob gwlad.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Eurovision 2008

Postiogan Mici » Iau 22 Mai 2008 7:35 pm

Aye yn union, mi wnath Father Ted awgrymu hynnu yn gryf yn 'Eurosong'.

"My lovely horse" amdani flwyddyn nesa
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Re: Eurovision 2008

Postiogan tafod_bach » Iau 22 Mai 2008 10:59 pm

O. Em. Ji. O'n i di neud rhestr rhyngweithiol hyfryd ichi o bob un finalist, efo fideos! Damia'r gliniadur bach newydd ma, a'i fysell fach. Gai dro arall:


Albania - Olta Boka - Zemren E Lame Peng fideo

Armenia - Sirusho - Qele Qele. fideo

Azerbaijan - Elnur Huseynov a Samir Javadzadeh - Day After Day. fideo

Bosnia ac Herzegovina - Laka - Pokusaj fideo. Ma hwn yn horibl. Gwylwch Moldova o 2005 yn lle

Croasia - Kraljevi ulice feat. 75 cents - Romanca. fideo. Hoho Hihi, Meh Etc.

Denmarc - Simon Mathews - All Night Long Fel James Fox, ond gwaeth. Top points am y llenladrad cymalog

Finland - Terasbetoni - Missa miehet ratsastaa, fideo. Fi'n lico fel ma nhw'n gweud 'raasasstaa'.

Ffrainc - Sebastien Tellier - Divine. Fideo. Neges breifat os chi moyn copi o rai o'i albyms llai lame.

Georgia - Diana Gurtskaya - Peace Will Come. fideo. Sain gweld pan odd angen gwisgo hi lan fel jordi laforge, chwaith.

Groeg - Kalomira - My Secret Combination. fideo. can am glitoris groegaidd.

Yr Almaen - No Angels - Disappear fideo.

Gwlad yr Ia - Euroband - This is my life. fideo

Israel - Bo'az Ma'uda - Ke'ilo kan fideo. Boas gysgodd da Ruth yn y Beibil, fact fans. Rhywun arall yn meddwl bo fe'n swnio fel rufus wainwright ar y cychwyn?

Latfia - Pirates of the Sea - Wolves of the sea. fideo :(

Norwy - Maria Haukass Storeng - Hold On Be Strong. fideo

Gwlad Pwyl - Isis Gee - For Life. fideo. Ma warbl gapel da hon. You have been warned.

Portiwgal - Vania - Senhora do Mar fideo - allith hi ennill di gwisgo fel ursula o'r lil mermaid?

Rwsia - Dima Bilan - Believe fideo. Canu ofnadwy, pwynt bonws am y mini ice rink. Nachi drafferth.

Rwmania - Nico and Vlad Mirita - Pe-o margine de lume. fideo. Dyma;r ail dro imi ffeindio a gwrando ar hwn. Mae fel budget andrea bocelli a sarah brightman. Emotive.

Serbia - Jelena Tomasevic - Oro fideo.

Sbaen - Rodolfo Chikilicuatre - Baila el ChikiChiki. fideo. ma angen mwy o shit felhyn yn gaerdydd. beenie man, elephant man, chiki chiki man etc...

Sweden - Charlotte Perrelli - Hero. fideo. diolch byth bo bach o emosiwn yn ei llais, achos dyw i gwyneb hi jyst ddimyn symud...

Twrci - Mor ve Otesi - Deli fideo. odd e'm yn hapus iawn bod e di ennill...

The Great Britain - Andy Abraham - Even If. fideo. Trafodwch ymhellach. Wir?!

Wcrain - Ani Lorak - Shady Lady fideo gwreiddiol - odd y perfformiad byw ar youtube yn ebrych fel bo lot o bobol o wcraen di bod yn ffilmio'r teli da'u handycam.

Pwy dych chi am ennill? Chi'n siomedig i weld rhywun yn gadael? O'n i'n siwr reit bydd bwlgaria a lithiwania yn cael 'llwyfan'...

Lithuania 'n' Leather

Bwlgaria woz robbed (gan eu curiadfocs dynol , o bawb)
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai