Mae’r cerddorion terfynol wedi cael eu dewis ar gyfer cystadleuaeth ieithoedd Celtaidd ac Albanaidd, i’w gynnal yn Inverness fel un o bedwar cystadleuaeth rhanbarthol ar draws Ewrop.
Fe dderbyniodd Nòs Ùr (sy’n golygu ‘arddull newydd’ mewn Gaeleg) lawer o ganeuon wedi eu cyfansoddi mewn Gaeleg, Gwyddeleg, Manaweg, Cymraeg a Llydaweg. Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal yn Eden Court ar nos Sadwrn, 21ain o Fehefin, ac mi fydd aelodau o’r cyhoedd yn medru pleidleisio ar y noson gan yrru neges destun neu e-bost.
Hon yw’r unig gystadleuaeth o’r fath yn Ewrop, sy’n dilyn ffurf debyg i’r gystadleuaeth Eurovision, gyda chanwyr a bandiau yn cynrychioli gwlad, ond yn yr achos yma, yn cynrychioli iaith leiafrifol.
Mi fydd enillwyr y gystadleuaeth ieithoedd Celtaidd ac Albanaidd yn cael eu cofrestru ar gyfer rownd terfynol y gystadleuaeth Ewropeaidd, Liet Lavut, sy’n cael ei gynnal yn Lulea, Sweden, yn yr Hydref.
Cerddorion terfynol Nòs Ùr yw:
• Aled Myrddin, Cymraeg;
• Davie Tait, Albaeneg;
• Dilwyn Llwyd, Cymraeg;
• Fiona J Mackenzie, Gaeleg yr Alban;
• Gillebride MacIllemhaoil, Gaeleg yr Alban;
• Gwennyn Louarn, Llydaweg;
• Oi Polloi, Gaeleg yr Alban;
• Gareth Bonello, Cymraeg;
• Yr Annioddefol, Cymraeg;
• Phamie Gow, Gaeleg yr Alban;
• Paula Kehoe, Gwyddeleg;
• a Lleuwen Steffan, Cymraeg.
Dywedodd Brian Ó hEadhra, trefnwr y gystadleuaeth:
"There has been a lot of music and media interest in the event and it is a great promotional opportunity for budding and professional song-writers.We are delighted with the submissions – 42 entries from many different minority languages. We had an independent jury of Scottish, Friesian (Netherlands) and Cornish judges who whittled them down to 12 of the best. It wasn't easy as the standard was extremely high, however, we are looking really forward to the night of the final and we hope many people interested in songs from minority languages will come along as it will be a very entertaining evening."
Y mae ticedi ar gael ar gyfer unrhywun â diddordeb mewn mynychu’r noson. Ffoniwch theatr Eden Court ar 01463 234234. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r wefan http://www.nos-ur.eu