Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Monkeyspoon » Mer 16 Ebr 2008 3:07 pm

Oes diddordeb gyda phobl sy'n siarad Cymraeg mewn cerddoriaeth werin metel? Dw i'n gwybod y fath o bethau sy'n cael eu dangos ar Bandit ayyb ond mae band hwn, Eluveitie, o'r Swisdir yn canu yn yr iaith wedi marw 'Gaulish' ac yn defnyddio offer traddodiadol gwerin fel ffidl a rhyw fath o bagpipes a fy hof un... hurdy gurdy!!! Maen nhw'n cymysgu metel a gwerin yn dda. Es i i'w weld nhw yn Llundain fel rhan o'r daith 'PAGANFEST' gyda bandiau folk-metal eraill o lleoedd fel Ffindir a'r Pharoe Islands (rhwng Norway a'r Alban). Mae themau gwahanol rhwng y bandiau fel Viking mythology ayyb. Wel, fi'n moyn rhannu hwn gyda chi achos does neb yn deall sut mae folk a metel yn gweithio gyda'i gilydd.



edrycha ar fy llunia o'r gig yma... http://www.flickr.com/photos/monkeyspoon/sets/72157604565740234/
Monkeyspoon
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 10 Tach 2006 12:06 am
Lleoliad: Porthcawl a Chaerdydd

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 16 Ebr 2008 3:18 pm

Lot o wybodaeth ar wiki.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Gorwel Roberts » Gwe 25 Ebr 2008 8:39 am

diddorol, tybed pwy fydd y band Cymraeg cynta?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 25 Ebr 2008 1:01 pm

Cyfuniad diddorol iawn. Dwi heb dod ar draws hyn o'r blaen
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan nicdafis » Sul 27 Ebr 2008 10:03 pm

Hmm, sa i'n credu bod Fat Ed yn sôn am hyrdi-gyrdis, a fe yw'r arbennigwr.

Ddim yn saff i'r gweithle, sori.

Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Prysor » Gwe 09 Mai 2008 7:57 am

Mae Briganthya, band gwerin-roc fusion Celtaidd o Galicia, yn gneud stwff tebyg, ond ddim cweit mor drwm/'grungy'. Welson ni nhw yn yr Oinez yng Ngwlad y Basg dair blynedd yn ôl. Amêsing.

Mae'n anhygoel fod rhain yn canu yn y Galeg (Gaulish). Iaith Geltaidd a berthynai'n weddol agos i'r Frythoneg a'r Gaeleg, a siaradwyd yn Ffrainc cyn y Rhufeiniaid oedd Galeg. Roeddan nhw'n dal i'w siarad yn ystod y cyfnod Rhufeinig, ond unwaith y gadawodd rheinni, cipiodd y Ffrancwyr (llwyth Almaeneg, fel yr Eingl, Jutiaid a Sacsoniaid) y wlad, a collwyd y Galeg.

Mae rhai geiria wedi goroesi drwy gael eu mabwysiadu i'r Ffrangeg, fel cheval (ceffyl), er engraifft.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Seonaidh/Sioni » Sad 10 Mai 2008 7:10 am

Prysor a ddywedodd:Mae Briganthya, band gwerin-roc fusion Celtaidd o Galicia, yn gneud stwff tebyg, ond ddim cweit mor drwm/'grungy'. Welson ni nhw yn yr Oinez yng Ngwlad y Basg dair blynedd yn ôl. Amêsing.

Mae'n anhygoel fod rhain yn canu yn y Galeg (Gaulish). Iaith Geltaidd a berthynai'n weddol agos i'r Frythoneg a'r Gaeleg, a siaradwyd yn Ffrainc cyn y Rhufeiniaid oedd Galeg. Roeddan nhw'n dal i'w siarad yn ystod y cyfnod Rhufeinig, ond unwaith y gadawodd rheinni, cipiodd y Ffrancwyr (llwyth Almaeneg, fel yr Eingl, Jutiaid a Sacsoniaid) y wlad, a collwyd y Galeg.

Mae rhai geiria wedi goroesi drwy gael eu mabwysiadu i'r Ffrangeg, fel cheval (ceffyl), er engraifft.


Hefyd, geiriau Ffrangeg fel "boue" (baw). Mae rhai'n credu fod Llydaweg, yn arbennig tafodiaith Bro Wened (hen garterf y Veneti adeg y Rhufeiniaid), yn cadw tipyn o Aleg yn fyw.

Enw od hynny - "Briganthya". Mae'n debyg i "Brigantia", gwlad hen lwyth o Geltiaid yng ngogledd Lloegr, a ddaeth o bosib yn "Brynaich" neu "Bernicia" adeg dyfodiad yr Eingl yno. Felly, pam hynny ar fand o Galicia? Mae fel petai band Cymreig yn dwyn enw Eidalaidd, e.e. "Maffia Mr. Huws"...
A bheil thu gam aithneachadh?
Rhithffurf defnyddiwr
Seonaidh/Sioni
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 476
Ymunwyd: Sul 03 Chw 2008 8:34 pm
Lleoliad: Markinch, Rìoghachd Fìobha

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 10 Mai 2008 5:39 pm

Folk metal ydy un o fy hoff mathau o gerddoriaeth, ond Galeg? Sdim digon o wybodaeth amdani, sut mae nhw'n canu ynddi heb ddyfeisio 90% o'r geiriau? :rolio: Swnio'n reit sketchy i ddeud y gwir, ar y lefel ieithol.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Prysor » Llun 12 Mai 2008 8:34 am

Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Enw od hynny - "Briganthya". Mae'n debyg i "Brigantia", gwlad hen lwyth o Geltiaid yng ngogledd Lloegr, a ddaeth o bosib yn "Brynaich" neu "Bernicia" adeg dyfodiad yr Eingl yno. Felly, pam hynny ar fand o Galicia? Mae fel petai band Cymreig yn dwyn enw Eidalaidd, e.e. "Maffia Mr. Huws"...


Soniais am hyn efo dau o aelodau'r band dwi'n adnabod, a mae'n debyg mai ar ôl llwyth efo'r un enw yng Ngalicia yr enwyd y band. Roedd Brigantes gogledd 'Lloegr' yn gonffederasiwn o lwythi llai, mae'n debyg, a mae'n ddigon posib fod eu harweinwyr/sylfaenwyr yn hannu i Iberia.

Mae Briganthya'n canu yng Ngalitheg (sy'n iaith Lladin-Romansh, nid Celtaidd) ac mewn Basgeg, ond yn arddel eu treftadaeth a hunaniaeth Celtaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Cerddoriaeth werin celtaidd metel!!

Postiogan Prysor » Llun 12 Mai 2008 8:59 am

Gwenci Drwg a ddywedodd:Galeg? Sdim digon o wybodaeth amdani, sut mae nhw'n canu ynddi heb ddyfeisio 90% o'r geiriau? :rolio: Swnio'n reit sketchy i ddeud y gwir, ar y lefel ieithol.


mae ieithyddwyr yn gallu ailgreu ieithoedd marw yn weddol gyflawn. Yn achos Galeg, roedd yn job cymharol hawdd.

mae Galeg wedi goroesi mewn ysgrifen - e.e. calendr Coligny, tecstiau L'Hospitalet-du-Larzac, a thabled Chamalières a.y.b...

mae seiniau, cytseiniau, llafariaid, rheolau gramadegol, y wyddor a rhifau, ac ati, Galeg wedi goroesi

mae gan Galeg chwaer-ieithoedd a gwreidd-ieithoedd - rhai clasurol a rhai sy'n fyw heddiw

mae ieithoedd lleiafrifol, lleol yn Ffrainc a'r Swistir yn defnyddio hen ffurfiau Galeg

mae rhai geiriau wedi goroesi hyd at heddiw

mae enwau llefydd ar draws Ffrainc a'r Swisdir yn deillio o'r Galeg
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron