Rhys Llwyd a ddywedodd:Post dwbwl. gol
Sori Rhys ond nid post dwbwl mohono o gwbwl. Post ynglŷn a thaith The Peth ydi'r un yn yr edefyn arall yn y seiat gigs, nid trafodaeth yng nhylch y grŵp ei hyn.
Dwi felly yn datgloi yr edefyn, ond dwi ei daflu mas o Seiat CGG i mewn i Gerddoriaeth gweddill y Byd gan taw, hyd y gwn i, yn Saesneg mae mhw yn canu. Mae'r albwm i gyd yn Saesneg, o be dwi'n cofio o'r fersiwn dwi wedi glywed.
Dwi hefyd wedi newid enw'r teitl gan taw
The Peth ydi enw'r grŵp a nid Y Peth.
Un peth arall - Dim grwp Rhys Ifans ydi e, ond mae'r thespian hedonistaidd o Glwyd yn westai arbeenig ar rhai o'r caneuon.
Grŵp Dafydd Ieuan o SFA ydi The Peth sy'n cynnwyd Dic Ben a nifer o gerddorion eraill.
Reit, Coffi!