Mae Joe Strummer wedi atgyfodi. Dyw hi ddim gymaint a hynny o syndod bod prif ganwr yr Albanwyr ma yn edrych fel canwr y band Saesneg gorau erioed, ond mae hi'n rhyfeddod bod eu caneuon cystal. Albym ymhen y mis, yn llawn clasuron sy'n swnio fel The Jesus and Mary Chain gyda tiwns.
The pursuit of perfection is construed as a need for excess
Dwi'n hoff o Daddy's Gone ac yn edrych mlaen i glywed yr album. Gymaint o fandiau da di dod o Glasgow dros y blynyddoedd, dim yn synnu bod un arall. Falle bod Alan McGee wedi darganfod aur unwaith eto. Snwio fel bod dylanwad mawr JAMC ar y band - er dwi'n meddwl od gan JAMC tiwns gwych - basa nhw ddim wedi para yn hir iawn efo jyst feedback a riots -
sai mor awyddus i clywed yr album ma'r dau sengl yn swno yn gwd ond sain gwbod os bydd y albym yn gallu cadw'r safon. ma'r steil JAMC yn neis i clywed to ond ma caneuon nhw yn dibynnu lot ar geirie'r boi (sy dim yn peth wael,) ond os mae'n sgwennu caneuon fel daddy's gone ydy e n gallu cadw dod o hyd i material fel na am albym gyfan?
-Superman don't need no seat belt. -Superman don't need no airplane, either. Muhammad Ali and Flight attendant
Chip a ddywedodd:ond os mae'n sgwennu caneuon fel daddy's gone ydy e n gallu cadw dod o hyd i material fel na am albym gyfan?
I fod yn onest, os ma'r albym yn mynd i swno fel Daddy's Gone, soi'n credu allai wrando arno fe, mae e'n grinding arno fi a bydde albym o fe'n waith caled *