esbjörn svensson trio

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

esbjörn svensson trio

Postiogan Gorwel Roberts » Llun 08 Medi 2008 3:14 pm

Oes rhywun yn gwybod rwbath am y rhain ac yn gallu fy rhoi ar ben ffordd plis?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 09 Medi 2008 9:05 am

Ma na sawl trac i'w lawrlwytho am ddim ar eu tudalen Last.fm (ella fod rhaid cofrestru i wneud hynny cofia).

Dwi di dod i wybod am rhain trwy raglen Break for Jazz, Sam Christie ar Radio Ceredigion. Mae o'n ffan massive o EST, ac yn chwara nhw bob yn ail wsnos. Alli di bron iawn garantio cael trac gan EST, trac o'r albym Bedrock gan Uri Caine, trac oddi ar Nefertiti, Miles Davies, a thrac gan yr NDR Big Band. :) Solid.

Dim ond awr o Break for Jazz dwi'n gael ar nos sul rwan, ers iddyn nhw newid y schedules. :crio:
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 09 Medi 2008 11:12 am

diolch yn fawr! Mae hynna yn hynod solid os ca' i ddweud. Dwi wedi archebu 'a strange place for snow' a 'seven days of falling'. Edrych ymlaen at glywed rwbath gogleisiol...
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan cwrwgl » Mer 10 Medi 2008 9:26 pm

Roedd EST yn cynhyrchu y gerddoriaeth fwyaf hyfryd y doi byth ar ei draws. Gwrando ar CD "Seven Days of Falling" ddaeth a fi at fy nghoedd yn yr oriau trawmatig hynny wedi rhoi genedigaeth!

Yn drychinebus o drist, dwi'n deud "roedd", gan y bu Esbjorn Svensson farw fis mehefin mewn damwain sguba diving. Roedd i fod ymddangos yn Brecon Jazz eleni.

Roedd yn athrylith. Weles i erioed nhw'n chwarae'n fyw, a dwi mor gutted am hynny. O leia gadawodd gasgliad hollol wych o CD's ar ei ol. Roedd y band newydd orffen recordio eu CD ddiweddaraf cyn y ddamwain.

http://www.telegraph.co.uk/news/obituar ... nsson.html
http://www.guardian.co.uk/music/2008/jun/16/news.world
http://www.guardian.co.uk/music/musicbl ... sdeathisad
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan cwrwgl » Mer 10 Medi 2008 10:32 pm

Gyda llaw, os cei flas ar EST mae stwff y Tord Gustavsen Trio yn werth i ti roi gwrandawiad arno hefyd. Mewn mowld reit debyg, ond chydig yn "ysgafnach".

Hefyd, stwff piano solo Keith Jarrett.
Ac wrth gwrs, ein talent lleol, Huw Warren.

Hefyd, Wyt wedi clywed CD's May Monday? Prosiect yr acordianydd Saesneg, Karen Tweed a'r pianydd Jazz sgandinafaidd, Timo Alakotila, a'u gwestai (mae'r bodyr Kilbride o Gaerdydd yn ymddangos ar y CD newydd, ymysg eraill). Mae nhw dipyn mwy gwerinol na EST a TGT, ond dwi'n eu cael yn yr un "vibe". 8)
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 11 Medi 2008 7:42 am

Weles i'r Huw Warren Trio yn aber yn lled-ddiweddar ac oedden nhw'n wych.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan Gorwel Roberts » Gwe 12 Medi 2008 9:36 am

cwrwgl a ddywedodd:Gyda llaw, os cei flas ar EST mae stwff y Tord Gustavsen Trio yn werth i ti roi gwrandawiad arno hefyd. Mewn mowld reit debyg, ond chydig yn "ysgafnach".

Hefyd, stwff piano solo Keith Jarrett.
Ac wrth gwrs, ein talent lleol, Huw Warren.

Hefyd, Wyt wedi clywed CD's May Monday? Prosiect yr acordianydd Saesneg, Karen Tweed a'r pianydd Jazz sgandinafaidd, Timo Alakotila, a'u gwestai (mae'r bodyr Kilbride o Gaerdydd yn ymddangos ar y CD newydd, ymysg eraill). Mae nhw dipyn mwy gwerinol na EST a TGT, ond dwi'n eu cael yn yr un "vibe". 8)


Wedi cael 'seven days of falling' - hyfryd iawn. Diolch am yr awgrymiadau eraill. Dwi ddim yn nyts am jazz wedi bod ond dwi wrth fy modd efo Miles Davies wrth gwrs a dwi'n cofio prynu record 'Paths, Prints' Jann Garbarek flynyddoedd yn ol ar ol i ryw bobl o Norwy ei chwarae hi mewn parti - stwff hudolus iawn, tynnu chdi i mewn yn ara bach. Oes yna rwbath yn y dwr yn Sgandinafia???
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan cwrwgl » Sad 13 Medi 2008 11:14 am

Y diffyg golau dydd am hanner y flwyddyn dio ma siwr!

Gwefan dda ar gyfer stwff "sgandinafaidd", os yw'r vibe yn cydio!
http://www.cuberoots.com/
cwrwgl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 9:54 pm

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan Llewelyn Richards » Maw 16 Medi 2008 8:49 am

Fy ffefryn ydi Strange Place for Snow - ddim yn meddwl lot ohoni i ddechrau, wedyn ailwrando a ffeindio lot fawr i'w fwynhau. Cynnil iawn. O ran Sgandinafiaid, aethon nhw'n nyts am 'Dawnsionara', pan wnaeth y Cymry ddim - angen dweud mwy?
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: esbjörn svensson trio

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 16 Medi 2008 1:20 pm

Llewelyn Richards a ddywedodd:Fy ffefryn ydi Strange Place for Snow - ddim yn meddwl lot ohoni i ddechrau, wedyn ailwrando a ffeindio lot fawr i'w fwynhau. Cynnil iawn. O ran Sgandinafiaid, aethon nhw'n nyts am 'Dawnsionara', pan wnaeth y Cymry ddim - angen dweud mwy?


Oes rhaid i ti lusgo Endaf Emlyn i mewn i bopeth!!???

hei, EST efo Endaf Emlyn - dyna syniad
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai