Cymedrolwr: Geraint
cwrwgl a ddywedodd:Gyda llaw, os cei flas ar EST mae stwff y Tord Gustavsen Trio yn werth i ti roi gwrandawiad arno hefyd. Mewn mowld reit debyg, ond chydig yn "ysgafnach".
Hefyd, stwff piano solo Keith Jarrett.
Ac wrth gwrs, ein talent lleol, Huw Warren.
Hefyd, Wyt wedi clywed CD's May Monday? Prosiect yr acordianydd Saesneg, Karen Tweed a'r pianydd Jazz sgandinafaidd, Timo Alakotila, a'u gwestai (mae'r bodyr Kilbride o Gaerdydd yn ymddangos ar y CD newydd, ymysg eraill). Mae nhw dipyn mwy gwerinol na EST a TGT, ond dwi'n eu cael yn yr un "vibe".
Llewelyn Richards a ddywedodd:Fy ffefryn ydi Strange Place for Snow - ddim yn meddwl lot ohoni i ddechrau, wedyn ailwrando a ffeindio lot fawr i'w fwynhau. Cynnil iawn. O ran Sgandinafiaid, aethon nhw'n nyts am 'Dawnsionara', pan wnaeth y Cymry ddim - angen dweud mwy?
Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai