gan Llewelyn Richards » Maw 16 Medi 2008 7:45 am
Fydd gen i 'Great Gig in the Sky' ac 'Us and Them' yn fy mhen drwy'r dydd rwan - newyddion trist iawn. Roedd sain ei allweddellau yn hollol anhepgor i sain Pink Floyd ar ei gorau - o'r stwff cynnar fel 'Astronomy Domine' i 'Division Bell', ac wedi dylanwadu ar filoedd o fandiau wedi hynny. Roedd o hefyd i'w weld yn ddyn tyner ac annwyl, na chafodd efallai ei glod haeddiannol am ei ddawn fel cerddor. Mae'n anodd iawn meddwl am aduniad Pink Foyd hebddo fo, felly dwi ddim yn meddwl y dylid trio.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields