Eagles (y band)

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Eagles (y band)

Postiogan Orcloth » Mer 25 Chw 2009 3:40 pm

O'n i wrthi'n gwneud y fej yn barod erbyn amser te, ac yn ffansio gwrando ar rhywfaint o gerddoriaeth run pryd. Dyma ffendio cd'r Eagles (to'n i'm di chlywed hi ers stalwm). Waw, mae o mor dda - ron i di anghofio pa mor wych! O'n i'n arfer gwrando ar yr hen albwmiau, nes eu bod di chwarae'n ddim bron iawn! Ddaeth yr hen ganeuon a myrdd o atgofion yn ol o'r hen ddyddiau caru! Roedd yn hawdd cofio'r geiriau a chanu hefo nhw (gobeithio bod neb yn gwrando!). Ew, roedd grwpiau ers stalwm mor dda, yn sgwennu caneuon hefo geiriau ti'n medru ddallt, yn medru canu a chwarae offerynau (yr un pryd) ac yn gallu canu mewn harmoni perffaith. Fy ffefrynau i:- "The Last Resort"; "Desperado"; "Already Gone"; "Lyin' Eyes"; "I Can't Tell You Why" a "Doolin Dalton". Rhywun arall yn cyruno? :D
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Eagles (y band)

Postiogan Mwnci Banana Brown » Mer 25 Chw 2009 4:52 pm

Wel, beth am Hotel California de?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Re: Eagles (y band)

Postiogan Orcloth » Mer 25 Chw 2009 6:40 pm

Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Wel, beth am Hotel California de?

Wel, ma pawb yn disgwyl i chdi ddeud honna, ond o'n i'n meddwl byswn i'n rhestru'n ffefrynau eraill gynta.... :winc: Mae "Hotel California"'n un dda wrth gwrs, on nid Y gora di hi, naci?
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon


Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron