gan Chickenfoot » Gwe 26 Meh 2009 6:19 pm
Dw i'm yn andros o hoff o'i gerddoriaeth, ond dw i dal yn meddwl 'roedd ganddo uffar o lot o ddawn. Mae'n drist i weld lluniau o'r hogyn bach ciwt yn canu hefo'r Jackson 5, a'i cymharu hefo'r ddyn hynod o drist y tyfodd i fod. Wedi dweud hynna, tasa gen i rieni more gachlyd a rhai MJ, 'swn i'n siwr o fod yn byw mewn castell hefo mwnci hefyd.
Yn ogystal, cafodd y boi bydd ei ffeindio euog o unrhyw drosedd rhywiol, ond roedd miliynau o bobl yn ei alw'n paedophile. Eto, 'doedd neb y galw Elvis yn paedo am dyweddio hefo merch 14, nac oedd?
O wel, heddwh i'w lwch. 'Dw i am losgi fy maneg wyn fel teyrnged. Shamone, muthfucka, ac RIP.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M