Yr anfarwol MJ

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Chickenfoot » Gwe 26 Meh 2009 6:48 pm

Caiff anghofio ei troubles
Ag ymuno efo Bubbles



Y cwpled gorau yn hanes barddoniaeth. Gwychder ar raddfa byd-eang :-)
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan sian » Gwe 26 Meh 2009 8:04 pm

Mwnci Banana Brown a ddywedodd:
sian a ddywedodd:Doedd gen i ddim syniad ei fod mor boblogaidd.
Teimlo mod i wedi colli rhywbeth yn rhywle :?


Ble ddiawl wy ti'n byw....? Trefor?


Dim bai ar Trefor - pawb arall yn y siop bore 'ma yn gyfarwydd iawn â'r boi.

Ben oedd y record gynta ges i erioed - presant wrth penffrend yn Canada. A dodd dim record player 'da ni ar y pryd :?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Mali » Gwe 26 Meh 2009 11:08 pm

sian a ddywedodd:
Ben oedd y record gynta ges i erioed - presant wrth penffrend yn Canada. A dodd dim record player 'da ni ar y pryd :?


Ah , 'Ben' ....'roeddwn wedi anghofio am y gan yna . Allan o'i holl ganeuon , yr un sydd yn mynd drwy mhen i rwan ydi 'Gone Too Soon' . :( Can i gofio am Ryan White a anwyd efo Aids, ac a fu farw yn 1990 yn 18 mlwydd oed.

Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Kez » Gwe 26 Meh 2009 11:27 pm

Mali a ddywedodd: Es i weld ei gyngerdd yn Wembley yn 1992 a threulio'r noson efo miloedd o ffans eraill yn rhyfeddu at ei ddawn.


Hei Mali, buas i yn Wembley i weld cyngerdd MJ ‘ed. Wi’m yn siwr os taw 1992 ne 1988 odd hi ond odd sgrin lydan denau uwchben y llwyfan a dechreuws y sioe off wrth ddangos trad Michael yn cerdded o un ochor y llwyfan i’r nall. Ath y llwyfan yn ddu bitsh ac wedyn dath gola unig mlan drost y brenin a gwelson ni fe yn dychra cico -ddawnso, dyla ei gwdyn, sefyll yn stond, ac wedyn y miwsig a'r wledd yn dychra. Wi’n siwr bo fi’n cofio’n iawn ac nid dylanwad y drygs adloniadol odd hi :wps: :crechwen: Ta p'un i - drygs, cwrw ne sobor - odd e'n ffycin ACE!

Wi’m yn meddwl y gwelwn y fath athrylith am flynydda lawar, os byth. Dyw geiriau ddim yn ddigon - heddwch i’w lwch :crio:

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Un pwynt bach bthdi'r erthygl yn Golwg360; ma nhw'n gweud iddo ddioddef, yn ôl pob tebyg, gan drawiad ar y galon - ma’r Sun yn gweud yr un peth ac efallai iddynt gal eu gwybodaeth o’r papur ‘na, ond odd e’n hysbys ers y dechrau taw ataliad ar y galon gas e, ac ma ‘na wahaniaeth – roedd CNN yn egluro hyn wrtho i nithwr, ac ifi wedi ffindo hwn ar y we sy’n egluro’r gwahaniaeth i’r rhai na wyddai (fel finna - er 'taswn i'n newyddiadurwr, byswn i wedi treial cael fy ffeithiau'n iawn, siwr Dduw iti!).

http://www.nowpublic.com/health/michael-jackson-cardiac-arrest-vs-heart-attack
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Mali » Sad 27 Meh 2009 3:03 am

Kez a ddywedodd:
Hei Mali, buas i yn Wembley i weld cyngerdd MJ ‘ed. Wi’m yn siwr os taw 1992 ne 1988 odd hi ond odd sgrin lydan denau uwchben y llwyfan a dechreuws y sioe off wrth ddangos trad Michael yn cerdded o un ochor y llwyfan i’r nall. Ath y llwyfan yn ddu bitsh ac wedyn dath gola unig mlan drost y brenin a gwelson ni fe yn dychra cico -ddawnso, dyla ei gwdyn, sefyll yn stond, ac wedyn y miwsig a'r wledd yn dychra. Wi’n siwr bo fi’n cofio’n iawn ac nid dylanwad y drygs adloniadol odd hi :wps: :crechwen: Ta p'un i - drygs, cwrw ne sobor - odd e'n ffycin ACE!


Hei Kez.....Y Dangerous tour es i weld , os ydi hynny'n help . Dwi'n meddwl mai'r Bad tour oedd yn Wembley yn 1988. Mi es i a'n ffrind am ddiod bach i pyb cyfagos cyn gwneud ein ffordd tuag at y stadiwm, ac erbyn i ni gyrraedd 'roedd y seti i gyd yn llawn. Felly sefyll yn y cannol ddaru ni drwy'r cyngerdd. Yn cofio MJ yn ymddangos yn sydyn ar y llwyfan ac yn sefyll yno am funudau lawer cyn dechrau symud a dawnsio a chanu ayb.....dyma ti Kez yn arbennig i ti !



I was there. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Kez » Sad 27 Meh 2009 3:56 am

Diolch o galon iti cariad. Ti'n iawn - y Bad tour odd hi --ac oen ni ddim yn ishta mewn seddi ne ddim byd fel 'ny - oen ni'r bois yn ei watsho fe yn sefyll ar ga Wembley ei hunan. Wi'm yn cofio neb yn ishta lawr - nid bod seddi ar ganol ca, chwaith.

Dylswn i fod yn y gwely ond buas i ar night shift trwy'r effin wthnos a dim ond nawr - nos wenar/bora satwn - fi'n cal cyfla i grwydro'r we, youtube ac ail-fyw athrylith Michael, felly fi gaf i bach o gwsg fora Sul - rhaid i gwsg aros witha.

Dyma un o'm ffefrynau i, ymysg llawar un arall - sbeshal iti Mali xxx - 'Y Dyn yn y Glas' ne' 'The Man in the Mirror'-- a ti'n gweld ei drad e'n cerddad ar hyd y sgrin ar y dechrau fel y cofias ei weld yn digwdd yn Wembley slawar dydd.

Well ifi gau lan nawr, ifi wedi bod yn watsho gormod o fideos Michael ac ma'r dagra'n dychra cronni ac wi ddim isha i bobol feddwl bo fi'n sisi pwff pan af i mas nes mlan heddi - ac a gwed y gwir, mae gormod o bobol yn meddwl bo fi fel 'ny, fel ag y ma fe - y ffycin arseholes :rolio: .

Golygwyd diwethaf gan Kez ar Sad 27 Meh 2009 5:23 am, golygwyd 3 o weithiau i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Kez
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 661
Ymunwyd: Llun 30 Gor 2007 1:39 pm
Lleoliad: Battersea

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Mali » Sad 27 Meh 2009 4:27 am

Wow ....grêt ! Diolch am y linc Kez . :D 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Dai dom da » Sad 27 Meh 2009 1:16 pm

I fod yn onest, heb wrando lot ar MJ, ond o hyd wedi gwerthawrogi ei input i gerddoriaeth. A nawr ar ol gwario cwpwl o orie yn gwylio rhaglenni amdano ar sky, dwi'n sylwi faint mor wych oedd ei ganeuon. Od shwt ma marwolaeth yn gwneud i chi sylweddoli genius rhywun. Trist mai fel hyn ma'i di mynd. Reit off i brynnu cwpwl o albyms.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Mali » Sad 27 Meh 2009 3:24 pm

Dai dom da a ddywedodd: Reit off i brynnu cwpwl o albyms.


Dim ond crys t , [sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn ] wnês i brynnu ar noson ei gyngerdd yn Wembley yn 1992 , felly dwi 'di bod yn chwilota ar eBay am tour program i'w ychwanegu at fy nghasgliad . Dyle mod i wedi prynnu un fisoedd yn ôl pan edrychais i ddiwethaf .....erbyn hyn mae'r prisiau yn uchel iawn. :(
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Yr anfarwol MJ

Postiogan Chickenfoot » Sad 27 Meh 2009 4:19 pm

Dai dom da a ddywedodd:I fod yn onest, heb wrando lot ar MJ, ond o hyd wedi gwerthawrogi ei input i gerddoriaeth. A nawr ar ol gwario cwpwl o orie yn gwylio rhaglenni amdano ar sky, dwi'n sylwi faint mor wych oedd ei ganeuon. Od shwt ma marwolaeth yn gwneud i chi sylweddoli genius rhywun. Trist mai fel hyn ma'i di mynd. Reit off i brynnu cwpwl o albyms.


Felly fydd dyfodiad y Tupac newydd.

'Sgwn i faint o boxsets gaiff eu rhyddhau yn y dyfodol agos?

Mae'r galaru ymysg ei dilynwyr mynd i fod yn hysterical, a mae dyfyniadau rhai enwogion yn hystericsl mewn ystyr arall e.e

P.Diddy: "Michael showed me that you can actually see the beat"

Go wir, mr Coombes? Roedd o'n dda, ond dim cystal a hynna! Einstein of Pop?
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai