Wi'n ffilu gweld Leo Sayer ar fonet y car. Ti'n bod yn sili nawr ne efallai bod e ond yn ymddangos i'w ffans ac fi ddim yn lico fe o gwbwl. Ta p'un i, dyla fe fynd off bonet car Michael nawr os yw e na!!
Bendant, mae llun o leia dau berson arall ar y bonet - un hefo clustiau mawr reit tu ol i MJ ar y chwith ac un arall mewn profile yn agosach i'r cysgod ar y chwith eto - efallai mai hwnnw welodd Chick - mae ei lygiad wedi cau a'i geg yn agored fel petai'n canu!!! Onest rwan Kez, sbia'n fanwl iawn ac mi weli di o!!! Spooky ta be?
Ie, ma 'na rywun tu ol i Michael ond dyn du arall sydd 'na a het ar ei ben - efalla taw Louis Armstrong yw hwnnw. Wi'n gwpod bo fe'n lico popo lan yn amal; welas i fe yng nhanol Kiwi fruit unwaith ond dyma'r tro cyntaf ifi weld e ar fonet car.