Tudalen 1 o 6

Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 1:27 pm
gan Orcloth
Dwi di bod yn teimlo'n drist iawn ers i mi glywed y newyddion am MJ druan.
Bob tro maent yn chwarae yn o'i ganeuon ar y radio, mae'r dagrau'n llifo'n araf.
Mewn ffordd, mae'n gwneud i mi feddwl am pawb arall rwyf wedi'u colli ar adegau fel hyn ac yn fy nhristhau fwy byth, dwi'm yn gwybod pam, ond mae meddwl am rhywun enwog sydd wedi mynd mor ifanc yn drasiedi ynddo'i hun. :(

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 1:39 pm
gan Darth Sgonsan
Orcloth a ddywedodd:Bob tro maent yn chwarae yn o'i ganeuon ar y radio, mae'r dagrau'n llifo'n araf. :(


nath y Meical Un Fanag o ni'n garu farw peth amser yn ol (jesd cyn y fideo erchyll yna nath o efo Janet - Scream ia? nesh i)

ar ol Ffredi Mercury a Rick Witter, dyma fy hoff ffryntman. diolch am y miwsig

fel udodd ACDA, rock n roll never dies

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 2:38 pm
gan dafydd
Darth Sgonsan a ddywedodd:nath y Meical Un Fanag o ni'n garu farw peth amser yn ol (jesd cyn y fideo erchyll yna nath o efo Janet - Scream ia? nesh i)

Mae'n rhaid fod Golwg 360 yn cytuno 'da ti, am eu bod nhw wedi defnyddio llun ansawdd gwael o ganol yr 80au.

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 3:58 pm
gan Mali
Deffro bore 'ma , a dal methu cwylio fod Michael Jackson wedi mynd. :( Er pur anaml 'roeddwn yn gwrando ar ei gerddoriaeth y dyddia yma , ond yn yr 80au a'r 90au cynnar , fo oedd fy ffefryn. Es i weld ei gyngerdd yn Wembley yn 1992 a threulio'r noson efo miloedd o ffans eraill yn rhyfeddu at ei ddawn . Mis Medi ddiwethaf , 'roeddwn yn troedio'r ' Walk of Fame ' yn LA , ac mi wnês i edrych am ei seren .....

Delwedd

Heddwch i'w lwch... :crio:

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 4:00 pm
gan Darth Sgonsan
dafydd a ddywedodd:llun ansawdd gwael o ganol yr 80au.


llun o gyfnod gwynab sgerbwd y 90'au ydi hwnna - roedd y gwir Feical wedi'i naddu ffwrdd erbyn hynny

Sesh un fanag heno
I gofio
Dewin y dawnsho
Y llyfiadau llithrig ar lwyfan
Y gwichiadau boch-yn-dafod
Bellach wedi darfod
Caiff anghofio ei troubles
Ag ymuno efo Bubbles

Nos da Meical
Meical nos da :crio:

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 4:14 pm
gan dafydd
Darth Sgonsan a ddywedodd:
dafydd a ddywedodd:llun ansawdd gwael o ganol yr 80au.


llun o gyfnod gwynab sgerbwd y 90'au ydi hwnna - roedd y gwir Feical wedi'i naddu ffwrdd erbyn hynny

Wnaethon nhw ei ddiweddaru fe ar ôl darllen hwn siwr o fod, y diawled. Hwn oedd y llun:

Delwedd

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 4:15 pm
gan Mali
Darth , 'rwyt yn gwybod dy stwff am MJ....beth am i ti gysylltu efo Radio Cymru.

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 4:38 pm
gan sian
Doedd gen i ddim syniad ei fod mor boblogaidd.
Teimlo mod i wedi colli rhywbeth yn rhywle :?

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 6:19 pm
gan Chickenfoot
Dw i'm yn andros o hoff o'i gerddoriaeth, ond dw i dal yn meddwl 'roedd ganddo uffar o lot o ddawn. Mae'n drist i weld lluniau o'r hogyn bach ciwt yn canu hefo'r Jackson 5, a'i cymharu hefo'r ddyn hynod o drist y tyfodd i fod. Wedi dweud hynna, tasa gen i rieni more gachlyd a rhai MJ, 'swn i'n siwr o fod yn byw mewn castell hefo mwnci hefyd.

Yn ogystal, cafodd y boi bydd ei ffeindio euog o unrhyw drosedd rhywiol, ond roedd miliynau o bobl yn ei alw'n paedophile. Eto, 'doedd neb y galw Elvis yn paedo am dyweddio hefo merch 14, nac oedd?

O wel, heddwh i'w lwch. 'Dw i am losgi fy maneg wyn fel teyrnged. Shamone, muthfucka, ac RIP.

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Gwe 26 Meh 2009 6:36 pm
gan Mwnci Banana Brown
sian a ddywedodd:Doedd gen i ddim syniad ei fod mor boblogaidd.
Teimlo mod i wedi colli rhywbeth yn rhywle :?


Ble ddiawl wy ti'n byw....? Trefor?