Caiff anghofio ei troubles
Ag ymuno efo Bubbles
Y cwpled gorau yn hanes barddoniaeth. Gwychder ar raddfa byd-eang
Cymedrolwr: Geraint
Caiff anghofio ei troubles
Ag ymuno efo Bubbles
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:sian a ddywedodd:Doedd gen i ddim syniad ei fod mor boblogaidd.
Teimlo mod i wedi colli rhywbeth yn rhywle
Ble ddiawl wy ti'n byw....? Trefor?
sian a ddywedodd:
Ben oedd y record gynta ges i erioed - presant wrth penffrend yn Canada. A dodd dim record player 'da ni ar y pryd
Mali a ddywedodd: Es i weld ei gyngerdd yn Wembley yn 1992 a threulio'r noson efo miloedd o ffans eraill yn rhyfeddu at ei ddawn.
Kez a ddywedodd:
Hei Mali, buas i yn Wembley i weld cyngerdd MJ ‘ed. Wi’m yn siwr os taw 1992 ne 1988 odd hi ond odd sgrin lydan denau uwchben y llwyfan a dechreuws y sioe off wrth ddangos trad Michael yn cerdded o un ochor y llwyfan i’r nall. Ath y llwyfan yn ddu bitsh ac wedyn dath gola unig mlan drost y brenin a gwelson ni fe yn dychra cico -ddawnso, dyla ei gwdyn, sefyll yn stond, ac wedyn y miwsig a'r wledd yn dychra. Wi’n siwr bo fi’n cofio’n iawn ac nid dylanwad y drygs adloniadol odd hi Ta p'un i - drygs, cwrw ne sobor - odd e'n ffycin ACE!
Dai dom da a ddywedodd: Reit off i brynnu cwpwl o albyms.
Dai dom da a ddywedodd:I fod yn onest, heb wrando lot ar MJ, ond o hyd wedi gwerthawrogi ei input i gerddoriaeth. A nawr ar ol gwario cwpwl o orie yn gwylio rhaglenni amdano ar sky, dwi'n sylwi faint mor wych oedd ei ganeuon. Od shwt ma marwolaeth yn gwneud i chi sylweddoli genius rhywun. Trist mai fel hyn ma'i di mynd. Reit off i brynnu cwpwl o albyms.
Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai