Chickenfoot a ddywedodd:Dai dom da a ddywedodd:I fod yn onest, heb wrando lot ar MJ, ond o hyd wedi gwerthawrogi ei input i gerddoriaeth. A nawr ar ol gwario cwpwl o orie yn gwylio rhaglenni amdano ar sky, dwi'n sylwi faint mor wych oedd ei ganeuon. Od shwt ma marwolaeth yn gwneud i chi sylweddoli genius rhywun. Trist mai fel hyn ma'i di mynd. Reit off i brynnu cwpwl o albyms.
Felly fydd dyfodiad y Tupac newydd.
'Sgwn i faint o boxsets gaiff eu rhyddhau yn y dyfodol agos?
Mae'r galaru ymysg ei dilynwyr mynd i fod yn hysterical, a mae dyfyniadau rhai enwogion yn hystericsl mewn ystyr arall e.e
P.Diddy: "Michael showed me that you can actually see the beat"
Go wir, mr Coombes? Roedd o'n dda, ond dim cystal a hynna! Einstein of Pop?
Wi ddim yn cymeryd dim byd ti'n gweud o ddifri erbyn hyn Chickenfoot. Ot ti ddim yn lico Susan Boyle hyd yn oed. Iawn cal barn os ifi'n cytuno ag e, ond ond winna''n meddwl bo ti'n bod yn provocative nawr!!
Cer at yr edefyn 'Bwyd a Diod' ne rywpath arall sili a gad inni glodfori Michael i'r cymylau fan hyn, nei di - mewn ffordd hysterical ne fel arall .
Ti morrrr lwcus bo Hedd yn gwrthod gatal ifi fod yn gymedrolwr ar y maes-e 'ma