Tudalen 4 o 6

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 4:19 pm
gan Chickenfoot
Dai dom da a ddywedodd:I fod yn onest, heb wrando lot ar MJ, ond o hyd wedi gwerthawrogi ei input i gerddoriaeth. A nawr ar ol gwario cwpwl o orie yn gwylio rhaglenni amdano ar sky, dwi'n sylwi faint mor wych oedd ei ganeuon. Od shwt ma marwolaeth yn gwneud i chi sylweddoli genius rhywun. Trist mai fel hyn ma'i di mynd. Reit off i brynnu cwpwl o albyms.

Felly fydd dyfodiad y Tupac newydd.

'Sgwn i faint o boxsets gaiff eu rhyddhau yn y dyfodol agos?

Mae'r galaru ymysg ei dilynwyr mynd i fod yn hysterical, a mae dyfyniadau rhai enwogion yn hystericsl mewn ystyr arall e.e

P.Diddy: "Michael showed me that you can actually see the beat"

Go wir, mr Coombes? Roedd o'n dda, ond dim cystal a hynna! Einstein of Pop?

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 4:44 pm
gan Kez
Chickenfoot a ddywedodd:

Wi ddim yn cymeryd dim byd ti'n gweud o ddifri erbyn hyn Chickenfoot. Ot ti ddim yn lico Susan Boyle hyd yn oed. Iawn cal barn os ifi'n cytuno ag e, ond ond winna''n meddwl bo ti'n bod yn provocative nawr!!

Cer at yr edefyn 'Bwyd a Diod' ne rywpath arall sili a gad inni glodfori Michael i'r cymylau fan hyn, nei di - mewn ffordd hysterical ne fel arall .

Ti morrrr lwcus bo Hedd yn gwrthod gatal ifi fod yn gymedrolwr ar y maes-e 'ma :winc:

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 6:51 pm
gan Dai dom da
Chickenfoot a ddywedodd:
Dai dom da a ddywedodd:I fod yn onest, heb wrando lot ar MJ, ond o hyd wedi gwerthawrogi ei input i gerddoriaeth. A nawr ar ol gwario cwpwl o orie yn gwylio rhaglenni amdano ar sky, dwi'n sylwi faint mor wych oedd ei ganeuon. Od shwt ma marwolaeth yn gwneud i chi sylweddoli genius rhywun. Trist mai fel hyn ma'i di mynd. Reit off i brynnu cwpwl o albyms.

Felly fydd dyfodiad y Tupac newydd.

'Sgwn i faint o boxsets gaiff eu rhyddhau yn y dyfodol agos?

Mae'r galaru ymysg ei dilynwyr mynd i fod yn hysterical, a mae dyfyniadau rhai enwogion yn hystericsl mewn ystyr arall e.e

P.Diddy: "Michael showed me that you can actually see the beat"

Go wir, mr Coombes? Roedd o'n dda, ond dim cystal a hynna! Einstein of Pop?

Ddim cystal a hynna? Plis oleua ni gyda dy awgrymiadau i pwy sy'n dod yn agos i'w enwogrwydd, pwysigrwydd a'i dawn creadigol yn y byd pop? A gwna bach o ymwchwil cyn dod lan a rhyw ateb twp. Dwi ddim yn ffan mawr o MJ, ond dwi'n gallu deall pam ei fod e mor boblogaidd.

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 10:30 pm
gan Chickenfoot
Y Beatles, Elvis, Rolf Harris? Mi fasech chi'n medru ddweud bod Chuck Berry neu Little Richard, mewn ffordd, yn yr un league oherwydd eu dylanwad.

(Kidding am y trydydd un, cyn i neb na all darllen cyd-destun mewn i frawddeg ysgrifenedig cael stroc).

Mae'r rheini'n reit bwysig, shamone!

O'n i'n mynd i ddweud y Rolling Stones, ond mae hynna'n gwthio ffiniau fy hygrededd digon gwael tipyn yn rhy bell. O'n i'n mynd i son am y maes creadigol, ond mae'n hwyr a dw i wedi dileu'r darn yna rywsut ond eniwe...

'Doeddwn i ddim yn dweud nad oedd o'n dda, felly chillax dude. Be' o'n i'n dweud oedd for Pappa Diddy Pop wedi cael mynd dros ben llestri. "See the beat" - it's a bit luvvy, ond tydi? Dw i'm yn meddwl all neb gwneud hynna, nacdyn?

'Doeddwn i ddim yn son am allu MJ - that moonwalking little lad was a genius! Digon craff i gael pobl fel Quincy Jones, Eddie Van Halen, Paul McCartney ac eraill i sereni ar ei albwms, hefyd. Siwr bod chdi di methu's post hefo'r chyymdeimlad hefo'r dyn ynglyn a'r cyhuddiadau hyll amdano heb lawer o dystiolaeth.

Paid a gwylltio cyn darllen brawddeg yn iawn. Efalla nad oedd fy mhwynt yn hollol eglur ond doedd o ddim yn heiroglyphics, nac oedd?

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 10:33 pm
gan Chickenfoot
A gyda llaw, dweud oeddwn i Kex bach, fod ei ffans yn die-hard yn mynd i fod yn hysterical...nid pobl call, gonest, gweithgar a extra primo-rhywiol Maes-e, ok? :winc:

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 10:38 pm
gan Chickenfoot
Gyda llaw, dw i wedi bod yn eitha slac hefo'r diffiniad o "pop", gan fod hynna'n meddwl mwy nac un peth...felly mae na un neu ddau 'sa'n mwy roc o ran swn ond wedi croesi drosodd i fod yn pop oherwydd eu poblogrwydd/dylanwad.

Gyda llaw, rhoddais i lot ymdrech mewn i fod yn gall am unwaith, felly paid a bod yn rhy hallt hefo fi gan, fel cerddor, ti fyny yn erbyn rywun cafodd ei daflu allan o wers recorder yn ysgol gynradd am fod more tone deaf. :winc:

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 10:52 pm
gan Chickenfoot
Kez a ddywedodd: Wi ddim yn cymeryd dim byd ti'n gweud o ddifri erbyn hyn Chickenfoot. Ot ti ddim yn lico Susan Boyle hyd yn oed. Iawn cal barn os ifi'n cytuno ag e, ond ond winna''n meddwl bo ti'n bod yn provocative nawr!!

Cer at yr edefyn 'Bwyd a Diod' ne rywpath arall sili a gad inni glodfori Michael i'r cymylau fan hyn, nei di - mewn ffordd hysterical ne fel arall .

Ti morrrr lwcus bo Hedd yn gwrthod gatal ifi fod yn gymedrolwr ar y maes-e 'ma :winc:

SHAMONE! O'n i'n ddweud nad oedd Jacko yn cael neud i neb weld y ffycin beat, ok? Chill the fuck out, cyn i dorri maneg gwyn orau wrth taro'r sgrin! :winc: Falla dyliwn i fod wedi rhoi'r "hynna" mewn italics, ond doeddwn i wir yn meddwl nad fase urhyw un yn camddallt!

'Does posib nad oedd y ffecin darn "Einstein of Pop" ddim yn cliw bach? :crechwen:

Er mwyn y cofnodion, 'sgen i ddim byd yn erbyn Mr Michael Jackson....Heblaw am Earth Song a , wel, bod dim ers Scream rili....ond er nad oeddwn i'n andos o ffan, dw i'n cydweld 'roedd o'n ddawnus iawn wrth dawnsio a chanu. OK??!!!! :winc:

A taswn i isio fod yn provocaive, 'swn i di neud lot o jociau amdano, fel o'n i wedi fy nhemptio i wneud...ond ddywedais i na i'r diafol, a dyna'r ddiolch dw i'n cael. Wel y JIW, JIW, shamone!

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 10:58 pm
gan Dai dom da
Chickenfoot a ddywedodd:Y Beatles, Elvis, Rolf Harris? Mi fasech chi'n medru ddweud bod Chuck Berry neu Little Richard, mewn ffordd, yn yr un league oherwydd eu dylanwad.

(Kidding am y trydydd un, cyn i neb na all darllen cyd-destun mewn i frawddeg ysgrifenedig cael stroc).

Mae'r rheini'n reit bwysig, shamone!

O'n i'n mynd i ddweud y Rolling Stones, ond mae hynna'n gwthio ffiniau fy hygrededd digon gwael tipyn yn rhy bell.

Ond beth bynnag, 'doeddwn i ddim yn dweud nad oedd o'n dda, felly chillax dude. Be' o'n i'n dweud oedd for Pappa Diddy Pop wedi cael mynd dros ben llestri. "See the beat" - it's a bit luvvy, ond tydi? Dw i'm yn meddwl all neb gwneud hynna, nacdyn?

'Doeddwn i ddim yn son am allu MJ - that moonwalking little lad was a genius! Digon craff i gael pobl fel Quincy Jones, Eddie Van Halen, Paul McCartney ac eraill i sereni ar ei albwms, hefyd. Siwr bod chdi di methu's post hefo'r chyymdeimlad hefo'r dyn ynglyn a'r cyhuddiadau hyll amdano heb lawer o dystiolaeth.

Paid a gwylltio cyn darllen brawddeg yn iawn. Efalla nad oedd fy mhwynt yn hollol eglur ond doedd o ddim yn heiroglyphics, nac oedd?

Chickenfoot a ddywedodd:Gyda llaw, dw i wedi bod yn eitha slac hefo'r diffiniad o "pop", gan fod hynna'n meddwl mwy nac un peth...felly mae na un neu ddau 'sa'n mwy roc o ran swn ond wedi croesi drosodd i fod yn pop oherwydd eu poblogrwydd/dylanwad.

Gyda llaw, rhoddais i lot ymdrech mewn i fod yn gall am unwaith, felly paid a bod yn rhy hallt hefo fi gan, fel cerddor, ti fyny yn erbyn rywun cafodd ei daflu allan o wers recorder yn ysgol gynradd am fod more tone deaf. :winc:

Hehe, un da. Y thing is ma'r celebs wastod yn mynd i ddod mas a dyfynniade bach cawslyd a soft. Ma hwnna'n rhan o'i bywyde nhw. By the way, we ni ddim di gwylltio, jest gweld e'n bizarre bod rhywun yn labeli person fel MJ 'ddim cystal a hynna'. Ond pawb at ei farn suppose!

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Sul 28 Meh 2009 1:49 pm
gan Chickenfoot
jest gweld e'n bizarre bod rhywun yn labeli person fel MJ 'ddim cystal a hynna'. Ond pawb at ei farn suppose!

Ia, ond 'roedd y datganiad yna'n cyfeirio yn uniongyrchol at dyfyniad P.Diddy - does neb yn medru neud yr hyn ac awgrymir gan Puff Daddy a dyna oedd fy mhwynt, ti'n gweld?. 'Doeddwn i ddim yn dweud nad oedd MJ yn dda iawn - dim o bell ffordd. Falch bod hynna'n sorted [img]rwan[/img] :-)

Re: Yr anfarwol MJ

PostioPostiwyd: Llun 29 Meh 2009 9:19 am
gan Rhodri
Daeth y glasur yma ar Radio Ceredigion pnawn Sadwrn....

"We're dedicatin' the show today to Michael Jackson who passed away yesterday, we'll only be playing his songs on the show, and we'll also be chatting with Michael about what happened.....(saib hiiiiiir a phoenus)....Davies! Michael Davies!" :::::record Michael Jackson ymlaen - cd'n skipio - ymddiheuro:::::

----

On i'n hoff o "If it wasn't for Michael Jackson....there would be no Spinal Tap!" o Glastonbury fyd.

Ia..... Bechod, cradur, ayyb.