Tudalen 1 o 1

Miwsig Michael Jackson..

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 9:21 pm
gan Dona_501
Rhaid cyfaddef, o'n i methu credu pam glywais i y newyddion am Michael Jackson, drist iawn :(

O'n in gwrando a'r y newyddion gynne, ac o'n nhw dweud bod miloedd o pobol wedi prynu ei miwsig dros y we yn barod! Ac cyn diwedd y penwythnos, mi fydd e bawn a fod y'r artist cyntaf i cael No.1, 2 a 3 yn y charts yr un pryd!!!

Oes un dryw un wedi prynu ei caneuon? Ac os i chi wedi, pwy un i chi'n meddwl fydd yn 'No.1'?!

Fi'n gallu gweld e fod a'r y newyddion a radio am wythnosau.. a wythnosau.. a wythnosau...

Re: Miwsig Michael Jackson..

PostioPostiwyd: Sad 27 Meh 2009 10:42 pm
gan Chickenfoot
'Sgen i'm un o'i ganeuon yn fy nghasgliad (i fy nghilwydd trawyddol) ond 'swn i'n synnu os na fydd Rockin' Robin, Blame it on the Boogey a lot o'r stwff Jackson 5 ddim yn ymddagos. Hefyd, Beat It (solo awesome), Black or White a Rock with You.

Ac yn anffodus, blysi Earth Song...mae bob athrylith yn cael off days :winc:

Re: Miwsig Michael Jackson..

PostioPostiwyd: Sul 28 Meh 2009 11:53 pm
gan Mali
Sgin i ddim o gerddoriaeth Michael Jackson ar hyn o bryd. Mi wnês i werthu/rhoi i ffwrdd gymaint o bethau cyn symud yma. Ond , dwi am brynu fy ffefrynau [ yn enwedig y ballads ]o itunes. :D

Re: Miwsig Michael Jackson..

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 9:35 am
gan ffwrchamotobeics
Delwedd

Re: Miwsig Michael Jackson..

PostioPostiwyd: Mer 01 Gor 2009 9:40 pm
gan Duw
FFWRCH - clyw! clyw! Y peth gwitha am yr holl peth yw bod pob blydi gorsaf radio yn ware'i ganeuon! :rolio: Byger it, nol i Spotify.

Re: Miwsig Michael Jackson..

PostioPostiwyd: Sad 04 Gor 2009 11:35 pm
gan Chickenfoot
Falla wnaiff y fersiwn yma - sydd yn well nac un MJ yn fy marn i - ailddangos yn y siartiau rwan?