gan GutoRhys » Sul 06 Maw 2011 5:01 pm
Dwi'n mynd i Primavera yn Barcelona flwyddyn yma. Dyma fydd yr ail wyl cerddorol tramor i mi fynd iddo. Dwy flynedd yn ol fe es i i Sziget yn Budapest, roedd y tywydd yn well na phrydain lot rhatach am wyl hirach 5 diwrnod, a tywydd braf iawn bob dydd ar bwyd ar cwrw yn rhad iawn! A deud y gwir nes i weithio allan yn cynnwys trafnidiaeth a phopeth fod y gwyl 5/6 yn Hwngari yn costio yr un faint os nad llai na gwyl 3 ym mhrydain. Oes gan rhywun arall brofiadau o wyli tramor? Un penodol mi fuaswn i yn hoffi mynd iddo ydi Exit Festival. Rhywun yn mynd rhywle flwyddyn yma? Dwi'n cofio bob blwyddyn fod Huw Stephens yn gwneud adroddiad o wyl SXSW yn austin, mae hwna'n edrych yn ddiddorol iawn hefyd!