Tudalen 1 o 1

Gwyl Tramor (Ewrop neu bellach)

PostioPostiwyd: Sul 06 Maw 2011 5:01 pm
gan GutoRhys
Dwi'n mynd i Primavera yn Barcelona flwyddyn yma. Dyma fydd yr ail wyl cerddorol tramor i mi fynd iddo. Dwy flynedd yn ol fe es i i Sziget yn Budapest, roedd y tywydd yn well na phrydain lot rhatach am wyl hirach 5 diwrnod, a tywydd braf iawn bob dydd ar bwyd ar cwrw yn rhad iawn! A deud y gwir nes i weithio allan yn cynnwys trafnidiaeth a phopeth fod y gwyl 5/6 yn Hwngari yn costio yr un faint os nad llai na gwyl 3 ym mhrydain. Oes gan rhywun arall brofiadau o wyli tramor? Un penodol mi fuaswn i yn hoffi mynd iddo ydi Exit Festival. Rhywun yn mynd rhywle flwyddyn yma? Dwi'n cofio bob blwyddyn fod Huw Stephens yn gwneud adroddiad o wyl SXSW yn austin, mae hwna'n edrych yn ddiddorol iawn hefyd!

Re: Gwyl Tramor (Ewrop neu bellach)

PostioPostiwyd: Maw 08 Maw 2011 9:58 am
gan penn bull
Mynd i Prima Vera 'fyd.
Edrych mlaen - ma'r line up yn edrych yn wych.

Re: Gwyl Tramor (Ewrop neu bellach)

PostioPostiwyd: Sul 20 Maw 2011 6:55 pm
gan GutoRhys
Ffrind i mi wnaeth gynnig i mi fynd hefyd. Do ni mond yn gwybod am rhai or prif enwau e.e. National, belle and sebastian ac rhai or bandiau post-rock, wedi bod yn trio gwrando ar dipyn or "lineup" ac yn barod wedi dod ar draws llwyth o artistiaid gwych e.e. Autolux ag das racist! Edrych ymlaen yn fawr rwan hefyd.