Tudalen 1 o 2

Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Sad 07 Ion 2012 2:12 am
gan Chickenfoot
Dyma preview bach o sengl newydd Van Halen i'r rhai sydd hefo diddordeb.


Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Sul 08 Ion 2012 1:06 am
gan Duw
Os taw 'teaser' yw hwn, dwi'n meddwl gwnaethon nhw ddewis y rhan anghywir o'r gân :crio:

DLR yn edrych yn hilarious shwt - da iawn fe!

Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Sul 08 Ion 2012 3:12 am
gan Chickenfoot
Mae nhw'n torri'r can ar yr adeg anghywir - jest ar ol decharau'r cytgan, ond mae'n ok yn fy marn i. Mae She's the Woman, yr un chawaraeon nhw yn Efrog Newydd yr wythnos yma, yn wych. Er fod y camera'n rhy pell o EVH. mae'i fab Wolfgang yn swnio'n wych.
Dw i'n eithaf fyddiog y bydd ei albwm newydd yn reit dda. Mae She's the Woman yn fersiwn o demo gwnaeth VH hefo Gene Simmons yn y 70au, a mae hen gan arall, Bullethead, ar yr albwm hefyd.






Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Sul 08 Ion 2012 2:25 pm
gan Duw
Gwell. Doeddwn i ddim yn fussed as Wolfgang i ddechraau, ond mae'n amlwg ei fod yn gallu dal ei dir yn y grwp. Roeddwn yn dwli ar Michael Anthony - cymeriad a chwaraewr o fry. Cofio ei weld yn Donnington '84 yn gwneud 'bass solo' - rhywbeth doeddwn i erioed wedi clywed o'r blaen - 'mazin.

O ran MA a Hagar, beth wyr ti'n meddwl am 'Chickenfoot', Chickenfoot?

Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Sul 08 Ion 2012 9:32 pm
gan Chickenfoot
Mae'n nhw'n reit dda. Ges i'r ail albwm, Chickenfoot III, a 'roedd yn well na'r albwm cyntaf. Dw i'n meddwl fod Satch yn mwynhau fod yn aelod o fand ynlle bod yn artist unigol, a mae MA yn cael mwy i'w gwneud yn Chickenfoot nac 'roedd o'n cael yn VH, felly mae pethau di troi allan yn ok i bawb.

Ond ar y llaw arall, dw i'n edrych ymlaen at A Different Kind of Truth (alwm newydd VH) yn cael ei rhyddhau ar Chwefror 7fed nac ydw i glywed mwy o stwff Chickenfoot.

Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Sul 08 Ion 2012 9:49 pm
gan Chickenfoot
Duw a ddywedodd:Gwell. Doeddwn i ddim yn fussed as Wolfgang i ddechraau, ond mae'n amlwg ei fod yn gallu dal ei dir yn y grwp. Roeddwn yn dwli ar Michael Anthony - cymeriad a chwaraewr o fry. Cofio ei weld yn Donnington '84 yn gwneud 'bass solo' - rhywbeth doeddwn i erioed wedi clywed o'r blaen - 'mazin.

O ran MA a Hagar, beth wyr ti'n meddwl am 'Chickenfoot', Chickenfoot?



'Chydig bach o nostalgia i ti, oh great Yahweh! :syniad:




Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Llun 09 Ion 2012 7:48 pm
gan Duw
RWYT TI'N BLESIO DY ARGLWYDD YN FAWR FY MHLENTYN ANNWYL. BENDITH ARNAT TI.

:D

Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Mer 11 Ion 2012 12:41 am
gan Chickenfoot

Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ion 2012 11:31 pm
gan Duw
OMG - DLR - Disco Santa i diweddu pob un ohonyn nhw - ha ha ah ahhahhh ahha ha

bron a llyncu' nhafod :)

Re: Sengl Newydd Van Halen

PostioPostiwyd: Sad 14 Ion 2012 9:42 am
gan Chickenfoot
Gyda llaw, fy nuw, dyma rhodd Hagar a'r Foot i chwi: