Tudalen 1 o 1

Gwobrau Brit (Nid honna sydd ar Pobol Y Cwm)

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2012 10:44 am
gan Chickenfoot
Be oedd yr holl stwr am araith Adele? Be yn union 'roedd ganddi i'w dddweud fydda'n werth tarfu ar y newyddion beth bynnag? Yr eiliadd agorodd ei cheg, roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i am weld y Gettysburg Address: the Sequel.

Re: Gwobrau Brit (Nid honna sydd ar Pobol Y Cwm)

PostioPostiwyd: Iau 23 Chw 2012 9:35 pm
gan Josgin
Siom mawr i bawb. Deallaf ei bod ar fin datgelu'r gyfrinach i heddwch yn y Dwyrain canol , sut i greu ymasiad niwclear ar lefel diwydiannol, nodi lleoliad Lord Lucan , a thrafod rhinweddau ymgeiswyr ras arweinyddiaeth Plaid Cymru. Yn anffodus, fe wnaeth sensorwyr y llywodraeth Prydeinig sylweddoli beth oedd yn yr arfaeth, a torri ar ei thraws.

Re: Gwobrau Brit (Nid honna sydd ar Pobol Y Cwm)

PostioPostiwyd: Gwe 24 Chw 2012 8:23 pm
gan ceribethlem
Buodd hi ar fin datgelu fod pawb yn ymwybodol mai'r ateb yw 42, ond roedd hi wedi datrys y cwestiwn.

Re: Gwobrau Brit (Nid honna sydd ar Pobol Y Cwm)

PostioPostiwyd: Gwe 24 Chw 2012 10:23 pm
gan Chickenfoot
72 yw'r ateb, os ti'n chwarae Assassin's Creed :D

Re: Gwobrau Brit (Nid honna sydd ar Pobol Y Cwm)

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2016 10:25 am
gan Speakwelsh
Dw i ar goll. Hollol ar goll. Beth oedd y cwestiwn? :?