Ges i gopi o LP "The B-Sides Companion" yr Ultramagnetic MC's heddiw. Lot o stwff prin a remicsis. Stwff da.
Nes i wrando ar "Dr Octagon" heddiw 'fyd. Ma'r LP yn glasur, o'r cyfnod pan oedd Mo' Wax yn rhoi pethe deche mas. "Blue Flowers" yn wych a "Bear Witness" yn un o'n hoff dracie hip hop erioed. Rhywun gyda'r LP "Handsome Boy Modelling School"? - Rhyw fath o sideproject gan Prince Paul [o De La Soul] a Dan The Automator yn 2000 oedd Handsome Boy Modelling School. Ma na trac ar y record o'r enw "Holy Calamity (Bear Witness II)" sydd yn cut up anhygoel o'r gwreiddiol gyda DJ Shadow a DJ Quest yn ymuno ar y turntables. Tro gyntaf i fi glywed e, nath o chwythu fy mhen i. Class o drac, er dwi ddim yn meddwl fod gweddill yr album gystal.