Tudalen 2 o 2

B Ochrau

PostioPostiwyd: Llun 27 Ion 2003 8:55 pm
gan Mihangel Macintosh
Ges i gopi o LP "The B-Sides Companion" yr Ultramagnetic MC's heddiw. Lot o stwff prin a remicsis. Stwff da.

Nes i wrando ar "Dr Octagon" heddiw 'fyd. Ma'r LP yn glasur, o'r cyfnod pan oedd Mo' Wax yn rhoi pethe deche mas. "Blue Flowers" yn wych a "Bear Witness" yn un o'n hoff dracie hip hop erioed. Rhywun gyda'r LP "Handsome Boy Modelling School"? - Rhyw fath o sideproject gan Prince Paul [o De La Soul] a Dan The Automator yn 2000 oedd Handsome Boy Modelling School. Ma na trac ar y record o'r enw "Holy Calamity (Bear Witness II)" sydd yn cut up anhygoel o'r gwreiddiol gyda DJ Shadow a DJ Quest yn ymuno ar y turntables. Tro gyntaf i fi glywed e, nath o chwythu fy mhen i. Class o drac, er dwi ddim yn meddwl fod gweddill yr album gystal.

PostioPostiwyd: Maw 28 Ion 2003 5:45 pm
gan Geraint
Blue Flowers yn wych. Heb clywed y stwff arall ti'n son am.

Beth am 'spectrum' gan Quannum, sy'n cynnwys DJ shadow ac aelodau o Blackalicious a Latyrx. Mae hwn yn ffecin cwaliti.

Mos Def yn rapiwr class hefyd.

Quannum

PostioPostiwyd: Maw 28 Ion 2003 9:31 pm
gan Mihangel Macintosh
Geraint, ma Mos Def a Talib Kweli yn wych. Gennai mix CD Rawkusgyda loads o'i tracie nhw arno fe. Oes gen ti unrhyw LPs?

Cytuno am Quannum. Ma 'Spectrum' fel who's who o hip hop an-fasnachol. Fel rhyw hip-hop super crew, gyda Jurassic 5; Blackalicious, DJ Shadow (Ma 'Divine Interventions' yn seriws cwaliti!); El-P (gynt o Company Flow - rapiwr/cynhyrchydd gwych) ;Dan The Automator a Chief Excel. Wy ti mewn i Jurassic 5 hefyd?

PostioPostiwyd: Maw 28 Ion 2003 10:48 pm
gan Geraint
MM, Rioed wedi gwrando llawer ar Jurassic 5, er mod i'n gwybod bod nhw yn dda, hoffi sengl newydd Whats Golden, ydi stwff newydd mor dda ar hen? . Erioed wedi clywed am Talib Kweli o'r blaen, newydd is-lwytho rhai traciau ganddo, mae o'n seriously dda. Dwi wrthi yn is-lwytho llawer o bethau o ni heb ddod rownd i brynu yn y blynyddoedd dwetha dyddie hyn, ma broadband yn ffantastic.

Gennai Black on both sides gan Mos Def. Da.

Re: Quannum

PostioPostiwyd: Maw 28 Ion 2003 11:01 pm
gan Geraint
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Geraint, ma Mos Def a Talib Kweli yn wych. Gennai mix CD Rawkusgyda loads o'i tracie nhw arno fe. Oes gen ti unrhyw LPs?

Cytuno am Quannum. Ma 'Spectrum' fel who's who o hip hop an-fasnachol. Fel rhyw hip-hop super crew, gyda Jurassic 5; Blackalicious, DJ Shadow (Ma 'Divine Interventions' yn seriws cwaliti!); El-P (gynt o Company Flow - rapiwr/cynhyrchydd gwych) ;Dan The Automator a Chief Excel. Wy ti mewn i Jurassic 5 hefyd?


Sut da wnes di rhoi linc mewn gair, nid fel y cyfeiriad, fel wnes di da a Rawkus?? Dwi di gweld pobl yn gwneud o am oesoedd, ond erioed wedi gweithio mas sut i wneud o.

tagiau

PostioPostiwyd: Maw 28 Ion 2003 11:32 pm
gan Mihangel Macintosh
I neud linc gyda gair neu frawddeg, rho dy cursor ar y bwtwn URL ar y dde, uwchben y blwch ti'n teipio ynddo. Fe gei di'r cod am tag URL fanna.

Gosod URL a ddywedodd:Gosod URL: http://url neu testun URL


Dwi'n defnyddio'r ail ffordd o neud e. Ond cofia i gau y tag!

J5

PostioPostiwyd: Maw 28 Ion 2003 11:59 pm
gan Mihangel Macintosh
Geraint a ddywedodd:MM, Rioed wedi gwrando llawer ar Jurassic 5, er mod i'n gwybod bod nhw yn dda, hoffi sengl newydd Whats Golden, ydi stwff newydd mor dda ar hen?


Ma'r un cyntaf, LP "Jurassic 5" yn rili dda. Heb glywed "What's Golden" though! Heb weld nhw'n fyw, ond ma nhw'n neud e i gyd gyda 2 DJ yn jygglo'r beats - Dim rhyw nonsense gyda Backin' tape!

O, ie dyma mics radio amgen sy'n cynnwys Handsome Boy Modelling School. Mwynha!

PostioPostiwyd: Mer 29 Ion 2003 5:40 pm
gan Rhodri Nwdls
Peidiwch anghofio rhen Black Eyed Peas de...solid.

Pys du lygeidiog

PostioPostiwyd: Mer 29 Ion 2003 8:43 pm
gan Mihangel Macintosh
Wedi clywed ambell i drac, ond sgennai ddim byd gan y Pys Du Lygeidiog - be ti'n awgrymu i fi gael?