Dwi'n sicr yn mynd (er na sgen i ddim tocyn eto...).
Ma na un met i fi'n mynd i'r ddau newythnos ond ma'r rhan fwya ohonyn nhw'n mynd i'r un sonic youth. Raid i fi ddeud mod i isio mynd i'r un Mogwai a Tortoise, ella fydd na chydig mwy o electronica yn hwnna.
Oedd un blwyddyn dwetha'n hollol amazing. Public Enemy, The Magic Band, Venetian Snares, DJ AFX, Graham Massey (ffrind bach dy rithffurf, oedd ganddo ben mawr apier mache efo fideo wedi projectio arno fo!), The Fall...ma'r rhestr yn mynd mlaen a mlaen. Heb son am yr arcades wrth y traeth. Chase HQ WOO HOO!
Mae'r bar ei hun yn ffantastic, ar agor o 10yb tan 6yb wedyn efo dj's sydd wedi chwara yn do mewn a rhoi mwy o'u records personol nhw mlaen. Oedd dawnsio efo bois Public enemy'n uffar o laff tro dwetha.
Ti'n cwrdd a bob math o bobol yno. Nesh i siarad a llwyth o fobol oedd wedi dod o America, Yr Iseldiroedd, Ffrainc i fynd yno. Iesu, dwi'n dechra ecseitio'n lan rwan!!
Welai di yna rhen Dafod Fechan fach!
Dyma linc i
wefan yr wyl i bobol sydd a diddordeb.
(mae na rywfaint o line-up ychwanegol fan hyn, ddim yn nabod r'un ond sdim ots, dyn di rhan o'r hwyl)
Dyma
fy rifiw(bach) o flwyddyn dwetha..sgrolia i waelod y dudalen...
Maes-eio ers 2002, yo.