all tomorrow's parties

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Meic P » Sul 04 Ebr 2004 2:24 pm

dickiedavies a ddywedodd:flin i ddweud, ar ol yr argymellion brwd gan gyd-faeswyr, bod turbonegro yn siom. roedden nhw'n novelty act yn fy marn i. ond dyna, ni, roedden nhw'n laugh o leia' yng nghanol penwythnos llawn "serious music, man".


sori am hyn. dwi ddim yn ffan o metel i ddweud y gwir, ond pan weles i nhw yn Manceinion llynedd roedd nhw wir yn anhygoel. piti bo' chi di'ch siomi.
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan tafod_bach » Sul 04 Ebr 2004 4:59 pm

na phoener - odd y bingo hall yn le od i wylio nhw eniwe. gesh i siom i weld perfformiad y seconds - welis i nhw llynedd mewn clwb bach bach yngn nghaergrawnt, ac o'n nhw'n amazing. leni ddo, no such luck. o wel.
(er, mi o'n i, for my sins, yn mynd trwy fy yeah yeah yeahs phase bryd hynny, ac odd cael cwrdd ag un o'r band yn ddigon ecsiting i eclipsio'r gerddoriaeth cwasi-ddoji)

pamopamopam neshi ddim gweld lightning bolt? canlyniad o fod bant o aber am rhy hir. weles i'r traeth a mynnu gneud castell tywod yn lle gwylio'r bands. ffwl.

s
x
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 05 Ebr 2004 7:26 pm

Newydd gyrraedd nol. Ffwcd.

Ond digon o bren ar ol i sgwennu pwt...

Am nos Sadwrn! Ffycin anghygoel. Erase Errata. Le Tigre. Vincent Gallo (o'n i ddim isio lecio fo (gwerthu signed t-shirts am £70 - tosser) ond oedd o'n berffaith i arwain at...), Sonic Youth - band o'r safon uchaf un. Fe rociasant yn wir, ond ddim hanner cymaint a...sori i ddeud hyn tafod_bach...

LIGHTNING BOLT!!!?*(*%^&%&$%^^£%£$^%%$ WAAAAAAAAA!!

Oeddan nhw'n hollol wychgachboeth. Chwara syth ar ol Sonic Youth yn y gornel dde fyny staer. Aeth pawb yn wallgo. Dwi rioed di gweld ffasiwn beth yn fy myw (wel, heblaw am Venetian Snares yn ATP blwyddyn dwetha...). Nesh i golli nghamera yn y pit, ond nath rhywun neis iawn iawn iawn roi o nol i fi ar y diwedd. Iei! Ddylsa fod gen i luniau gwych ar ol bod ar sgwydda Moelog yn y pit. Doedd dim posib gwella ar hynny wedyn dydd Sul ag oedd bob dim braidd yn muted mewn cymhariaeth. Ella ddylsa nhw di chwara nos Sul fel nath y Snares...

Aaa, amser datod clymau sydd yn y mhen a'n sgwydda rwan a fejiteteiddio ar y soffa efo ffilm. Mwy fory siwr o fod...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 06 Ebr 2004 10:39 am

Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Maw 06 Ebr 2004 11:02 am

Rhodri, mp3's hollol gwallgof.

Dwi'n hoffi (dwi'n meddwl :ofn: )
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 06 Ebr 2004 11:11 am

Wedi prynu'r Al Bym "Wonderful Rainbow" yn syth ar ol y gig - mae'n arbennig, ond un o'r petha na sydd mond am dod allan yn achlysurol, pan dwisio cael gwared ar lwyth o egni (neu ffycio pennau fusutors fyny :crechwen: ).

Dyma'r gweddill...

Y bands nesh i weld dydd Gwener (curators: Stephen Malkmus and the Jinks):

Fiery Furnaces - ddim yn cofio rhain o gwbl ond dwi wedi ticio nhw am ryw reswm!
Nina Nastasia - llais hyfryd piercing ond oedd y violin ag accordian yn redundant am ryw reswm.
Enon - genod hyfryd Siapaneiadd yn creu swn neis yn cyfuno yr electronic a'r gitar
ESG - Oh yeah! Rhagor o genod - grwp o'r 80'au cynnar. Rial ffynci a digon o soul.
DJ's: Justin Spear (Stereolab); Belle and Sebastian

Y bands nesh i weld dydd Sadwrn (curatos: Sonic Youth):

00I00 - Mwy o Siapaneiad mental ond hefo ochor neis a mellow
Erase Errata - Band gwych, (genod eto) rhaid cael gafael ar eu cerddoriaeth
Wolf Eyes - Wal o swn, gwych, rhoi popeth mewn iddo a hynny'n dod trwodd, psycho boi ar y keys a'r gitarydd yn edrych fel ei fod wedi ei gysylltu'n feiolegol i'w gitar
Le Tigre - ma shwr taw electro pop fasach chi'n galw hwn - genod screamy shouty - oedd o'n atgoffa fi o'r band Shampoo o'r 90'au
Vincent Gallo - reit dda rhaid cyfadda, nwdlo ar y gitar gyda dau met ac adeiladu i crescendo reit neis
Sonic Youth - hollol wych, swn crwn cyflawn - dwi'n confyrted
Lightning Bolt - allai ddim ffurfio geiriau am eu gwychder...

Y bands nesh i weld dydd Sul (curators: Foundation):

Polmo Polpo / Hangedup - hangedup yn well na Polmo- violin efo distortion a digon o dryms diddorol
Jackie-O Motherfucker - diflas yn fy marn i
Arab Strap (mymryn) - cachu
Cat Power - llais hysci, caneuon syml, off ei phen ar drygs - nath hi gael y lle i droi'r "house lights" mlaen a mwydro rhwng bob can.
The Notwist - oce, ddim rili'n cofio'n iawn
Love with Arthur Lee (mymryn) - heb weld digon i farnu'n iawn
LCD Soundsystem - y gorau o'r diwrnod: mwy o crossover electronica/gitar efo lot o waeddi a pherfformio da (merch Siapaneiadd arall gyda'r rhain...mae yma batrwm)
Dizzee Rascal - mi roesi gyfla iddo, ond oedd o'n crap, dim gwahanol i'w recordiau, dim gafael ar y dorf, set fyr iawn, oedd o'n swnio fel ei fod yn gneud Top of the Pops
Har Mar Superstar - dim mynadd gyda'r pric, jest isio sgwrsio erbyn hyn...Barfog wedi gneud ei ben o reit mewn nos Sadwrn
DJ's: ATP a rhywun yn chwara Motown yn y Pyb
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai