Lyrics gora' yn y byd

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Lyrics gora' yn y byd

Postiogan løvgreen » Iau 31 Maw 2011 3:23 pm

Tros Ryddid

Do mi ganwyd ‘O bydded i’r heniaith barhad’
a chanwyd mai pleidiol oedd pob un i’w wlad
Am wrol ryfelwyr cyd-ganu a wnaed,
a chanwyd ‘tros ryddid collasant eu gwaed’.

Roedd yr athro’n yr ysgol yn deud bod hi’n yrfa gwerth chweil
ac mi ddaeth yma gatrawd i swagro drwy’r sgwâr gyda steil.
Pan dorrais fy enw ynghyd â rhai o hogia y dre
mi gododd y bandiau a chanu y gân dros y lle.

Do mi ganwyd...

Dan faner gwlad arall, ymlaen yr â catrawd fy ngwlad,
‘Ymlaen!’ meddai Llundain, i gawl mwyaf gwaedlyd y gad.
Bluff Cove, Crossmaglen, Monte Casino a’r Somme
adawodd yng Nghymru galon ar galon yn drom.

Ac mi ganwyd....

A’r gweddill ddaeth adref, ’mond briwsion o’r dynion a fu
Yn gloff neu heb ddwylo, neu a’u byd wedi troi yn ddu,
mi gafwyd te parti, a’r maer gafodd ddeud yno’i bwt,
fod o’n falch fod o’n Gymro, mewn chydig frawddegau bach twt.

Do mi ganwyd...

Nid af eto i ryfel, fydd gen i fyth ran mwy’n yr un,
ni frwydraf dros wlad, ddim ond dros fy ngwlad i fy hun,
ni roddaf saliwt i’r un swyddog ddiawl yn fy myw,
na marw heb achos – mae gen innau achos i fyw.

Ac mi ganaf ‘O bydded i’r heniaith barhad’
a chanaf mai pleidiol yr ydwyf i ’ngwlad
Am lanciau diniwed a sathrwyd dan draed,
y canaf, mor ofer collasant eu gwaed.

Myrddin ap Dafydd
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Re: Lyrics gora' yn y byd

Postiogan løvgreen » Iau 31 Maw 2011 3:25 pm

Dim yn ein henw ni

Wel ddaeth ’na neb i holi barn
Neb yn Gurnos, a neb yn Garn,
Ac os ti’n deud na chlywyd cri
Wel paid â deud hynny yn ein henw ni
Paid â deud hynny yn ein henw ni.

Ac wedi darllen y cynllun mawr
A llun Jehofa ar y clawr
Wel dyro dy lofnod bendant di
Ond paid â gwneud hynny yn ein henw ni
Na, paid â gwneud hynny yn ein henw ni
...

A gyrra’r hogia eto ar eu rhawd
Yr hogyn dwl a’r hogyn tlawd
I wneud eu llanast drost y lli
Ond paid â gwneud hynny yn ein henw ni
Paid â gwneud hynny yn ein henw ni
Paid â gwneud hynny yn ein henw ni

Twm Morys
Rhithffurf defnyddiwr
løvgreen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 863
Ymunwyd: Iau 10 Ebr 2003 11:08 pm

Nôl

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Majestic-12 [Bot] a 5 gwestai