gan Cymro13 » Llun 10 Mai 2004 4:46 pm
Mistar Duw-Edward H
Mor Syml a mor effeithiol-Ma fe fel gweddi plentyn bach yn gweddio i Mistar Duw
Y Ffoadur-Huw Jones
Dal yn berthnasol i nio heddiw
Arweinwyr mawr ein gwlad, y rhai a elwid bennaf
I chi yr ysgrifennaf, a’m calon i yn drwm
Rwyf newydd glywed sôn fod eisiau dynion newydd
I fynd i yrfa’r gleddyf, i ymladd gyda’r gŵn
Rhaid i’m anufuddhau, nid am fy mod yn llwfrddyn
Ond caru rwyf fy nghyd-ddyn, ac nid wyf am ei ladd
Wrth wneud y llythyr hwn, nid ydwyf am eich poeni
Ond rhaid oedd ysgrifennu
Cans gwarth yw’r rhyfel i’m
Ers cynta f’oes fe welais ladd rhieni
Llofruddiaeth llawer teulu, er gwaethaf gwaed y Groes
Bu farw mil o wŷr, tra steddech chi’n gysurus
Yn eich palasau moethus, gan drefnu tynged byd
Bu carcharorion prudd, na chollasant eu bywydau
Collasant eu heneidiau, eu nerth eu grym a’i fydd
Yfory af i ffwrdd, ni fedraf aros bellaf
Rhaid chwilio am wlad sy’n gallach
Ymhell o sŵn y gad
Fe grwydraf dros y byd, mewn angen ac mewn tlodi
Heb boeni am yfory, a d’wedaf wrth bob un
‘Mwynhewch bleserau’r byd, ond arbedwch bob rhyw gystudd
Cans brodyr y’m i’n gilydd, aelodau’r ddynol ryw
Oes rhaid yw arllwys gwaed, cewch arllwys waed eich gilydd
Cans nid wyf i yn llofrudd, arweinwyr mawr ein gwlad
Daw plismyn ar fy ôl, ond ni fydd rhaid i’nt boennu
Ni fydd dim arfau gen i
Mi fydd yn hawdd fy lladd