Tros Ryddid
Do mi ganwyd ‘O bydded i’r heniaith barhad’
a chanwyd mai pleidiol oedd pob un i’w wlad
Am wrol ryfelwyr cyd-ganu a wnaed,
a chanwyd ‘tros ryddid collasant eu gwaed’.
Roedd yr athro’n yr ysgol yn deud bod hi’n yrfa gwerth chweil
ac mi ddaeth yma gatrawd i swagro drwy’r sgwâr gyda steil.
Pan dorrais fy enw ynghyd â rhai o hogia y dre
mi gododd y bandiau a chanu y gân dros y lle.
Do mi ganwyd...
Dan faner gwlad arall, ymlaen yr â catrawd fy ngwlad,
‘Ymlaen!’ meddai Llundain, i gawl mwyaf gwaedlyd y gad.
Bluff Cove, Crossmaglen, Monte Casino a’r Somme
adawodd yng Nghymru galon ar galon yn drom.
Ac mi ganwyd....
A’r gweddill ddaeth adref, ’mond briwsion o’r dynion a fu
Yn gloff neu heb ddwylo, neu a’u byd wedi troi yn ddu,
mi gafwyd te parti, a’r maer gafodd ddeud yno’i bwt,
fod o’n falch fod o’n Gymro, mewn chydig frawddegau bach twt.
Do mi ganwyd...
Nid af eto i ryfel, fydd gen i fyth ran mwy’n yr un,
ni frwydraf dros wlad, ddim ond dros fy ngwlad i fy hun,
ni roddaf saliwt i’r un swyddog ddiawl yn fy myw,
na marw heb achos – mae gen innau achos i fyw.
Ac mi ganaf ‘O bydded i’r heniaith barhad’
a chanaf mai pleidiol yr ydwyf i ’ngwlad
Am lanciau diniwed a sathrwyd dan draed,
y canaf, mor ofer collasant eu gwaed.
Myrddin ap Dafydd