My Bloody Valentine - Loveless

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

My Bloody Valentine - Loveless

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 02 Gor 2004 1:55 pm

Wedi bod yn gwrando ar yr albym yma ar ol ffeindio hen gopi llychlyd ohoni. Gwych ta beth?
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 02 Gor 2004 2:06 pm

Ffycin gwych o albwm ai. Nath e bron a bancryptio Creation gan gostio miliynau a milynau i'w recordio, ond yn bendant yn glasur.

Nes i weld nhw'n chwarae yn yr Rinc Ia yng Nghaerdydd yn 1990 ac oedden nhw'n swnllyd dros ben - llwyth o feedback a caneuon yn para bron chwarter awr. Cwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Geraint » Gwe 02 Gor 2004 4:26 pm

ffycin hollol hollol wych.

Ma'r gan gynharach 'you made me realise' hefyd yn hollol hollol wych.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dylan » Gwe 02 Gor 2004 4:37 pm

Wrth fy modd efo fo. Er, pan mae pobl eraill yn gofyn i mi be' ddiawl ydi'r swn a pham 'dw i'n licio fo gymaint, alla' i ddim rhoi ateb. :?

Ti unai yn licio fo neu ti ddim, am wn i. Ond mae'r bobl sydd ddim yn anghywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Geraint » Iau 26 Awst 2004 3:27 pm

Soon, y gan ola yw'r gore. ton ar ol ton o gitars, distorshyn, tremolo, harmonics, deinamics, lleisiau angylaidd dros dryms ffynci dawns. Mae hi'n hitio sbot yn fy mhen fel all ddim llawer o swn arall gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwilym » Iau 02 Medi 2004 7:53 pm

Mihangel Macintosh a ddywedodd:ac oedden nhw'n swnllyd dros ben


Ia, dwi'n cofio darllen rhyw gyfweliad flynyddoedd yn ol gyda Kevin Sheilds (?). Mae o'n credu nad oedd y gynulleidfa'n gallu gwerthfawrogi'r gerddoriaeth yn iawn os nad oeddan nhw'n teinlo'r gerdoriaeth yn pasio'n gorfforol trwy eu cyrff. Bass response (tonnau o bass) yn hitio'r corff oedd ei ddehongliad ef o 'werthfawrogi'. Cwl ta be?

Mae Loveless dal yn ffefryn gen i hefyd. Mae dylanwad yr arddull gitar i'w glywed ar lot o fandiau. Hollol unigryw. Ble mae nhw rwan?

O ni hefyd 'di clywed mai coste aruthrol MBV yn y stwidio ddaru ennyn Creation i wthio Oasis, a chreu anghenfil bop! Mae 'na gytbwysedd yn y bydysawd ma raid. Creadigaeth albwm brydferth yn gyfrifol am greadigaeth band hyll uffernol. Cyfiawnder ma raid!
traciau newydd Drymbago ayyb:
http://www.caneuon.com
Rhithffurf defnyddiwr
Gwilym
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Mer 23 Meh 2004 4:55 pm
Lleoliad: Bangor

Postiogan Geraint » Gwe 03 Medi 2004 11:10 am

Kevin Shields dal yn gwneud cerddoraieth, mi wnaeth o draciau i soundtrack lost in translation, mae city girlyn wych.

Mae yna son fydd yna box set a dvd allan, ond ddim tan 2005/6.Dyma we-fan da am y band.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan mwgdrwg » Gwe 03 Medi 2004 11:16 am

Mae Kevin Shields yn aelod o Primal Scream rwan hefyd. Mae o wedi gweithio ar y dau albym olaf nhw dwi'n meddwl.

Mae 'Loveless' yn arbennig o dda. Mae'r guitars pob tro yn swnio fel Morfilod yn canu i mi.
Rhithffurf defnyddiwr
mwgdrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 144
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 10:25 am

Re: My Bloody Valentine - Loveless

Postiogan Geraint » Mer 25 Meh 2008 11:31 am

Weles i'r gig yn Camden Roundhouse nos Lun. Gig ardderchog, bosib y gore dwi rioed di bod i, a swn anhygoel efo'r band. Roedd pawb yn cael cynnig ear plugs wrth ddod mewn - ac odd angen nhw, mi oedd yn UCHEL, enwedig ar y diwedd lle roedd 20 munud o swn anferthol ac oedd yn ysgwyd trwy eich corff, fel sefyll tu ol boeing 747 - nifer o pobl yn cerdded allan ym methu cymryd o! Profiad anhygoel, ewch i weld nhw os da chi'n gallu.

http://www.youtube.com/watch?v=_po0RTKjsC8
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: My Bloody Valentine - Loveless

Postiogan sian » Mer 25 Meh 2008 11:42 am

Geraint a ddywedodd:Weles i'r gig yn Camden Roundhouse nos Lun. Gig ardderchog, bosib y gore dwi rioed di bod i, a swn anhygoel efo'r band. Roedd pawb yn cael cynnig ear plugs wrth ddod mewn - ac odd angen nhw, mi oedd yn UCHEL, enwedig ar y diwedd lle roedd 20 munud o swn anferthol ac oedd yn ysgwyd trwy eich corff, fel sefyll tu ol boeing 747 - nifer o pobl yn cerdded allan ym methu cymryd o! Profiad anhygoel, ewch i weld nhw os da chi'n gallu.


Swnio'n wirion iawn i mi. Pam na allen nhw jest droi'r sŵn lawr?
Fyddwch chi'n difaru! :wps:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron