John Martyn

Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes

Cymedrolwr: Geraint

Rheolau’r seiat
Unrhywbeth sydd ddim yn ymwneud â Cerddoriaeth Gymraeg Gyfoes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Llun 22 Tach 2004 6:04 pm

ddylia hwn ddim fod yn lle gigs????
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Emrys Weil » Llun 22 Tach 2004 11:46 pm

Geraint a ddywedodd:Gig od- oes rhywun di weld o'n fyw o'r blaen? Sut oedd hwn yn cymharu?


Ddwy waith. Unwaith tua chwarter canrif nol mewn gwyl awyr agored yn Llydaw, just ar ol rhydhau One World, lle nath o chwarae "Small Hours" a'r Llyds i gyd yn bwio a hisian am nad oeddan nhw'n gwerhfawrogi'r darn. 'Roedd o'n gryf danddylanwad rhywbeth a syrthiodd oddi ar ei gadair gan regi. Yna cododd, gorffen Small Hours ar ei hanner, rhoi gitar drydan o'r neilltu, cymryd un acwstig a dechrau ar stwff oddi ar Solid Air, ac o fewn pum munud 'roedd y Llyds yn gweiddi hwre ac yn dweud "MARYN, MARTYN" ar dop eu lleisiau.

yr ail dro oedd yn Nghaerdydd, just ar ol rhyddha Grace and Danger, dwi'n meddwl. 'Roedd o'n sobor, ac yn wych.

Dwi'n flin iawn mod i wedi ei golli fo leni.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan Jemeima Mop » Maw 23 Tach 2004 12:38 am

Be sy'n hudol am JM ydi waeth pa mor chwil neu sal ydio, pan mae o'n agor ei geg a dechrau canu mae'r llais yn anffycinfarwol!
Mae'n rhaid bod ei lais yn dod o rywle arallfydol achos sut yn y byd mae corff mor afiach yr olwg yn gallu creu y ffasiwn swn anhygoel?!

Profiad a hanner oedd gweld Arran Ahmun yn chwarae'n fyw, roedd y boi ar dan tu ol i'r dryms 'na! Ac am y set acwstic! Be fedra'i ddeud? Mae o'n neud i chwarae gitar edrych mor hawdd a anadlu. Roeddan ni'n lwcus i'w weld o'n neud bit ar ben ei hun achos, yn ol pob tebyg, anaml iawn mae o'n chwarae heb y band y dyddiau hyn.

Cytuno efo Geraint am y mics; toedd na'm cweit digon o lefel ar ei gitar. Anghytuno bod y caneuon yn swnio'n debyg i'w gilydd. Oce, roedd 'na grwfs ailadroddus, tywyll mewn ambell i gan ond mae'r caneuon yna fel 'na i dy hypnoteiddio di, i dy gael di mewn rhywfath o mini-trance. Mynd a ti i rywle arall.

Rywun yn gwbod be oedd y gan olaf ddaru o ganu? Yr un heb y gitar?
Rhithffurf defnyddiwr
Jemeima Mop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 234
Ymunwyd: Llun 26 Ion 2004 5:04 pm
Lleoliad: Penmon

Postiogan Dai dom da » Maw 23 Tach 2004 12:23 pm

Profiad a hanner oedd gweld Arran Ahmun yn chwarae'n fyw, roedd y boi ar dan tu ol i'r dryms 'na!


Neis clywed am y boi hyn. Dwi di gweld Arran Ahmun yn chware sawl gwaith nawr, a fe sy'n cipio'r teitl 'drymer gorau yn y byd'. Mai i fyny gyda'r goreuon yn y byd heb os. Mae ganddo ddawn arbennig i chware a ma 'groove' y boi yn anhygoel.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Geraint » Maw 23 Tach 2004 4:32 pm

Y drymyr gore yn y byd? Blydi hel, os sa ni'n gwybod sw ni wedi cymryrd mwy o sylw ohonno. Rhaid i mi ddeud o ni'n meddwl fod yna backing trac yn mynd efo'r drymiau achos fod y snare yn swnio'n synthetic/electrig. Ond ma hynna'n compliment iddo. Mi roedd yndreifio'r caneuon ymlaen yn dda. Mi oedd y chwaraewr bas yn weddol gawslyd, er yn dechnegol wych wrth sgwrs. Ac yr allwedellwr - yn neud gwynebau hileriys wrth chware - mynd dros y top weithie lle ddylai cadw fo'n syml? Ac y boi ar y sacs yn dawnsio mewn ffordd 'dyn gwyn' lletwith iawn :lol: I fod yn onest odd en well cau eich llygad a jyst gwrando

Reit, gennai Soldi Air wrth sgwrs, ond pa albym gai nesa?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Mwddrwg » Mer 24 Tach 2004 12:31 pm

cytuno efo geraint. ffeindiais i'r gig yn od a braidd yn siomedig. roedd y caneuon ganodd o heb y band yn wych - mwy fel be o'n i'n ei ddisgwyl. ond roedd wolfgang yr allweddellwr yn edrych fel dyle fo fod yn 'house band' jonathon ross, a'r sacsoffonydd/lyfrgellydd allan o'i le yn tynnu gormod o sylw atyn nhw'u hunain ac yn wish-woshio'r caneuon i gyd i swnio 'run peth.

ond ma'r boi dal yn lejynd, albym nesa? be am 'sweet little mysteries'
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Postiogan Llewelyn Richards » Mer 24 Tach 2004 12:49 pm

Wel, o edrych nol, o ystyried y bywyd mae o di gael a'r bac catalog enfawr o sdwff sydd ganddo i'w chwarae, mi oedd hi'n mynd i fod yn noson amrywiol. Pur debyg ei fod wedi hen flino chwarae Solid Air bellach, ac mae o i'w gymeradwyo am chwarae ei stwff newydd, mwy ffiwsion, ond o farnu ymateb pobl ar yr edefyn, doedd neb ddigon cyfarwydd nag efo digon o ddiddordeb yn y stwff newydd (a oedd yn llawer rhy grwydrol a diffocws). Ac oedd, mi oedd on swnio fel Rab C Nesbitt ar asid rhwng caneuon.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan Geraint » Mer 24 Tach 2004 12:56 pm

Acen Glasgeee cryf iawn da fe. Yr unig beth dwi'n cofio deall ddwedodd e oedd:

'I've got a new career....... as a sumo wrestler' :lol:

Lawr-lwyrthes i Bless The Weather newithiwr, swnio'n r-bennig
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Lletwad Manaw » Iau 25 Tach 2004 1:04 pm

"One legged Sumo wresler", wedodd e Geraint.........bwyti yr unig beth nes i ddeall e'n gweud drwy'r nos.

Siomedig iawn odd y noson.........enghraifft wych o sut mae lladd talent artist drwy adeiladu wal o swn electronig rownd y cyfan. Rodd y synth, y sax y gitar drydan yn lladd y cwbwl....mysh o swn undonnog. Ond y 2 gan acwstig nath e chwarae yn siwpyrb. Pam o pam odd raid i'r band ddod nol i'r llwyfan o gwbwl. Noson ddiflas ar y cyfan.
Lletwad Manaw
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Sad 30 Hyd 2004 4:56 pm

Postiogan Jemeima Mop » Iau 25 Tach 2004 5:45 pm

Rhaid imi anghytuno efo chi, o'n i'n meddwl bod o'n gret o gig. Digon gwir bod y boi sacs yn "dawnsio fel dyn gwyn" a bod JM yn siarad fel "Rab.C. Nesbit ar asid" :lol: ond y miwsic hogia! Roedd o'n wefreiddiol! Hypnotic i mi oedd y "mysh o swn undonnog" ma trystan yn son amdano. Yn bersonol, on i'n mwynhau'r grwfs yn ailadrodd. S dim isio alaw bendant bob tro, mae bod yn grwydrol yn oce.

Dw i'n cael y teimlad eich bod chi'n siomedig am eich bod chi 'di disgwyl set o hen stwff, solid airaidd. Mae 'na fwy i Jonh Martyn na Solid Air a be di'r ots os nad oeddach chi'n ei ddallt o'n siarad rhwng caneuon? Cerddor ydi o, dim diddanwr.

[quote]Reit, gennai Soldi Air wrth sgwrs, ond pa albym gai nesa?[/quote]

One World . . . neu Grace and Danger :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Jemeima Mop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 234
Ymunwyd: Llun 26 Ion 2004 5:04 pm
Lleoliad: Penmon

NôlNesaf

Dychwelyd i Cerddoriaeth Gweddill y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 10 gwestai

cron