Anodd gwybod be i ddweud........gwych gweld y dyn, mae ei lais dal yn anhygoel, ac dal yn chware'r gitar yn wych. Ond o ni'n siomedig efo rhai pethau, fel y band, a oedd weithiau yn swnio bach yn cawslyd 80aidd, ac hefyd y mics, doedd gitar John ddim digon uchel. Roedd llawer o'r caneuon roc/ffync/jazz oddyssey ma yn swnio'n debyg iawn i'w gilydd. Mwynheuais y caneuon gyda jyst John a gitar acwstig, o nhw yn hollol wych. Mae'n amlwg ei fod dal yn cael pleser mawr o'i gerddoriaeth.
Rhwng y caneuon yn bizzare! John yn siarad yn acen albaneg cryf iawn...bron neb yn gallu deall be mae'n ddweud...rhai pobl di meddwi yn gwaeddu arno...John yn psio chwerthin a neb yn siwr pam......mi o ni'n teimlo fel o ni yn gig Meic Stevens.
Doedd gennai ddim synaid pwy mor wael oedd ei iechyd, o ni ddim hyd yn oed yn gwybod fod e wedi colli coes...mae'r boi yn enfawr nawr..ydi o dal yn yfed? Smociodd e spliff daflodd rhywun o'r gynulleidfa iddo
Profiad od eistedd lawr yn theatr..hasl mawr mynd am bisiad...lot o bobl canol oedd mewn crysau smart
Gig od- oes rhywun di weld o'n fyw o'r blaen? Sut oedd hwn yn cymharu?