Rhaid imi anghytuno efo chi, o'n i'n meddwl bod o'n gret o gig. Digon gwir bod y boi sacs yn "dawnsio fel dyn gwyn" a bod JM yn siarad fel "Rab.C. Nesbit ar asid"
ond y miwsic hogia! Roedd o'n wefreiddiol! Hypnotic i mi oedd y "mysh o swn undonnog" ma trystan yn son amdano. Yn bersonol, on i'n mwynhau'r grwfs yn ailadrodd. S dim isio alaw bendant bob tro, mae bod yn grwydrol yn oce.
Dw i'n cael y teimlad eich bod chi'n siomedig am eich bod chi 'di disgwyl set o hen stwff, solid airaidd. Mae 'na fwy i Jonh Martyn na Solid Air a be di'r ots os nad oeddach chi'n ei ddallt o'n siarad rhwng caneuon? Cerddor ydi o, dim diddanwr.
[quote]Reit, gennai Soldi Air wrth sgwrs, ond pa albym gai nesa?[/quote]
One World . . . neu Grace and Danger