Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 23 Mai 2003 2:24 pm
gan Ffarout
Mihangel Macintosh a ddywedodd:Ma fe'n eithafol yn erbyn pobol yn 'smygu o'i amgylch (hwn gan ddyn odd arfer chwistrellu heroin yn ei freichiau)


My sentiments exactly. Yn y geiriau o Mr Hicks "For those of you who do not like smoking, take a look at the world in which we live, and shut your mouth".

Yn "Camgymeriad Gwych" ac especially yn y "Making of...", Cale dod dros fel wancr, yn fy barn i.

Trac gorau yn y ffilm, "Gwyddbwyll". No doubt. Ac dwi ddim jyst deud o chwaith :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 23 Mai 2003 4:09 pm
gan Geraint
Oce, mae'n amlwg fod ganddo wendidau, ond allwch chi ddim gwadu fod en athrylith yn y byd cerddorol. Dwi ddim yn beio fo am aros yn NY, mae'n amlwg mae dyma lle mae'n fwya cartrefol. Mae wedi cael llwyddiant allan o Gymru, os byddai wedi aros, efallai mai athro cerddoraieth arall yn taflu ffwrdd ei dalent byddai wedi bod? Dwi ddim yn meddwl oedd Cymru yn barod am yr avant-garde yn y 60au!

PostioPostiwyd: Gwe 23 Mai 2003 4:25 pm
gan Mihangel Macintosh
Geraint a ddywedodd: Dwi ddim yn meddwl oedd Cymru yn barod am yr avant-garde yn y 60au!


Neu yn yr 80au - Drycha ar Datblygu. Gafon nhw ddim sylw gan y cyfryngau yng Nghymru, ond fe gafon nhw coverage ar y cyfryngau yn Lloegr (Peel, Tube etc) Hefyd roedd pobl yn bwio nhw mewn gigs yn Aberteifi, tra roedd pobl yn clapio mewn gigs yn Harlow.

I fod yn onest dwi ddim yn meddwl fod Cymru dal i fod yn barod am gerddoriaeth avant garde. Falle yn fwy i rhaddau nag oedden nhw, ond ddim llawer.

Dwi ddim yn amau fod Cale yn gyfansoddwr a cherddor da iawn, er fase ni'n dweud fod Lou Reed yn fwy 'street' ac yn fwy populist na'r boi o Garnswllt.