Tudalen 1 o 3
Toucan wedi cau??
Postiwyd:
Llun 08 Awst 2005 12:13 pm
gan benni hyll
Wedi clywed bod o (ers nos Sadwrn).
Unrhywun yn gwybod os ydy o'n wir?
Postiwyd:
Llun 08 Awst 2005 12:41 pm
gan Barbarella
Dwi ddim wedi clywed dim byd... nai drio ffeindio allan rhag ofn!
Postiwyd:
Llun 08 Awst 2005 2:14 pm
gan Dai Tecsas
Shit, yw e?
Odd Radio Lux yn penciled mewn i neud gig Maes B yna Nos Wener (y 12fed).... we shall wait and see
Postiwyd:
Llun 08 Awst 2005 7:28 pm
gan gruff
ma'r toucan wedi cau yn anffodus. Ma'r pobl sydd yn adeiladu'r flats uwchben wedi'i prynu allan. Trueni mawr...un lleoliad da arall wedi diflannu o'r ddinas.
Postiwyd:
Llun 08 Awst 2005 7:41 pm
gan Dyn Gwyn Gwirion
Gah! Be fydd yn digwydd i Abri rwan?
Postiwyd:
Llun 08 Awst 2005 8:12 pm
gan gronw
aaa, dim ond dau ddwrnod yn ol nes i symud nol i'r de ddwyrain. ddim yn deg
Postiwyd:
Llun 08 Awst 2005 9:03 pm
gan Prysor
och a ffwcin gwae !!! trallod etc !!!
fy hoff dwll i fynd ar fy mhen i fynd off fy mhen ynddo adag gems ffwtbol Cymru !!!
dwi'n mynd i sgwenu i Rhodri Morgan y munud yma, o yndw.......
Postiwyd:
Maw 09 Awst 2005 2:59 pm
gan Geraint Edwards
Gobeithio bod y Twcan yn gallu ffeindio safle newydd yng nghanol y ddinas cyn hir, mae wir angen clwb cerddorol o'i fath yng Nghaerdydd. Os ydynt wedi cael eu prynu allan gan ddatblygwyr eiddo, siawns y gallent fforddio lle arall i leoli yn ddigon handi.
Postiwyd:
Maw 09 Awst 2005 3:03 pm
gan Mihangel Macintosh
un o'r bars a feniws gore yng Nghymru wedi mynd.
Be ddigwiddiff i Abri? Higher Learning?
Gah!
Postiwyd:
Maw 09 Awst 2005 3:05 pm
gan Ray Diota
Hollol gutted, ond os mai cael eu prynu mas nathon nhw, falle ewn nhgw rwle arall, ife?
[H.y. yr union be wedodd Geraint Edward. Gwd nawr Ray.]