Tudalen 1 o 2

LP gorau Geraint Jarman

PostioPostiwyd: Llun 15 Awst 2005 9:51 pm
gan Cymro13
Newydd fod yn gwrando ar rai a jest yn meddwl pa un chi'n meddwl yw'r gorau. Ma lot yn dweud mai 'Hen Wlad fy Nhadau' ond ma lot o rai eraill fel 'Enka' a Cerddorfa Wag' yn dda iawn hefyd
Be chi'n meddwl?

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 8:40 am
gan Gorwel Roberts
Dyna un anodd, mae'r triawd 'Hen Wlad', 'Gwesty Cymru' a 'Fflamau'r Ddraig' yn anodd eu curo.

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 8:47 am
gan Meic P
8) Hen Wlad fy Nhadau 8)

does dim curo

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 9:25 am
gan Llewelyn Richards
Eilio'r uchod.

Dwi hefyd yn hoff iawn iawn o 'Sub not Used'. Mae mwg y mariwana yn chwyrlio'n drwchus o'i chwmpas.

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 10:20 am
gan MC Sosban
Fflamau'r Ddraig i mi bob amser, yn enwedig efo caneuon fel Cwn Hela a Cae'r Saeson, dwi hefyd yn hoffi'r L.P. efo Crogi Llgoden arni, ond dwi methu cofio be di enw hi rwan!!

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 10:49 am
gan Gorwel Roberts
Byddai'n rhaid imi ddweud 'Hen Wlad' taswn i'n gorfod enwi un, ond 'Fflamau'r Ddraig' oedd fy ffefryn am yn hir. Ond beth am 'Gwesty Cymru', albym hollol ffantastig lle dach chi'n clywed y Cynganeddwyr yn datblygu fel fflamia ar ol 'HWFNh

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 11:02 am
gan Prysor
Gorwel Roberts a ddywedodd:Dyna un anodd, mae'r triawd 'Hen Wlad', 'Gwesty Cymru' a 'Fflamau'r Ddraig' yn anodd eu curo.


amen

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 11:43 am
gan MC Sosban
Ar ba albym oedd Crogi Llgoden? A'i Elenbenfelen oedd enw'r albym?

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 12:38 pm
gan Gorwel Roberts
MC Sosban a ddywedodd:Ar ba albym oedd Crogi Llgoden? A'i Elenbenfelen oedd enw'r albym?


Diwrnod i'r Brenin oedd yn cynnwys caneuon o sioe Moving Being am y Mabinogi a sleifars reggae.

Pam nad ydi Sain yn ailryddhau'r albyms 'ma yn eu cyfanrwydd?

PostioPostiwyd: Maw 16 Awst 2005 2:01 pm
gan Cawslyd
Yn union. Dwi'n big fan o Jarman, a mae genai'r goreuon (a nes i brynu 'Sub Not Used' ar gaset yn stondion Sain yn y Steddfod am £1.50) ond sgin i'm yr LPs gwreiddiol oherwydd do'n i heb gael fy ngeni pan ddathon nhw allan.