LP gorau Geraint Jarman

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

LP gorau Geraint Jarman

Postiogan Cymro13 » Llun 15 Awst 2005 9:51 pm

Newydd fod yn gwrando ar rai a jest yn meddwl pa un chi'n meddwl yw'r gorau. Ma lot yn dweud mai 'Hen Wlad fy Nhadau' ond ma lot o rai eraill fel 'Enka' a Cerddorfa Wag' yn dda iawn hefyd
Be chi'n meddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 16 Awst 2005 8:40 am

Dyna un anodd, mae'r triawd 'Hen Wlad', 'Gwesty Cymru' a 'Fflamau'r Ddraig' yn anodd eu curo.
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Meic P » Maw 16 Awst 2005 8:47 am

8) Hen Wlad fy Nhadau 8)

does dim curo
Wel ma' hi'n canu yn y côr
Dwylo Dros y Môr
Rhithffurf defnyddiwr
Meic P
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1191
Ymunwyd: Iau 08 Mai 2003 11:45 am
Lleoliad: Llandyfam

Postiogan Llewelyn Richards » Maw 16 Awst 2005 9:25 am

Eilio'r uchod.

Dwi hefyd yn hoff iawn iawn o 'Sub not Used'. Mae mwg y mariwana yn chwyrlio'n drwchus o'i chwmpas.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Postiogan MC Sosban » Maw 16 Awst 2005 10:20 am

Fflamau'r Ddraig i mi bob amser, yn enwedig efo caneuon fel Cwn Hela a Cae'r Saeson, dwi hefyd yn hoffi'r L.P. efo Crogi Llgoden arni, ond dwi methu cofio be di enw hi rwan!!
MC Sosban
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 214
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 9:41 am

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 16 Awst 2005 10:49 am

Byddai'n rhaid imi ddweud 'Hen Wlad' taswn i'n gorfod enwi un, ond 'Fflamau'r Ddraig' oedd fy ffefryn am yn hir. Ond beth am 'Gwesty Cymru', albym hollol ffantastig lle dach chi'n clywed y Cynganeddwyr yn datblygu fel fflamia ar ol 'HWFNh
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Prysor » Maw 16 Awst 2005 11:02 am

Gorwel Roberts a ddywedodd:Dyna un anodd, mae'r triawd 'Hen Wlad', 'Gwesty Cymru' a 'Fflamau'r Ddraig' yn anodd eu curo.


amen
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan MC Sosban » Maw 16 Awst 2005 11:43 am

Ar ba albym oedd Crogi Llgoden? A'i Elenbenfelen oedd enw'r albym?
MC Sosban
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 214
Ymunwyd: Mer 18 Awst 2004 9:41 am

Postiogan Gorwel Roberts » Maw 16 Awst 2005 12:38 pm

MC Sosban a ddywedodd:Ar ba albym oedd Crogi Llgoden? A'i Elenbenfelen oedd enw'r albym?


Diwrnod i'r Brenin oedd yn cynnwys caneuon o sioe Moving Being am y Mabinogi a sleifars reggae.

Pam nad ydi Sain yn ailryddhau'r albyms 'ma yn eu cyfanrwydd?
Gorwel Roberts
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1550
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 3:23 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cawslyd » Maw 16 Awst 2005 2:01 pm

Yn union. Dwi'n big fan o Jarman, a mae genai'r goreuon (a nes i brynu 'Sub Not Used' ar gaset yn stondion Sain yn y Steddfod am £1.50) ond sgin i'm yr LPs gwreiddiol oherwydd do'n i heb gael fy ngeni pan ddathon nhw allan.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai